Mae’r grŵp ymgyrchu Save The Severn wedi sicrhau diwrnod yn y llys gyda’r nod o atal gollwng gwastraff i’r amgylchedd morol gwarchodedig o amgylch glannau a thraethau afon Hafren.

Mae miliynau o dunelli o fwd wedi’u halogi ar eu ffordd i’r dyfroedd a’r traethau oherwydd y cwmni ynni mawr EDF, sy’n anwybyddu mesurau diogelu cyfreithiol.

Ar Fawrth 8, bydd Save The Severn mewn gwrandawiad Adolygiad Barnwrol, gan herio cyfreithlondeb y drwydded a gafodd ei rhoi gan y Sefydliad Rheoli Morol (MMO).

Byddan nhw’n dadlau nad yw nifer o weithdrefnau hanfodol wedi’u bodloni a bod yn rhaid i EDF fabwysiadu un o’r dewisiadau amgen.

Yn 2018, fe wnaeth EDF ddympio sawl tunnell o fwd wedi’u halogi oddi ar arfordir Caerdydd.

Mae Save The Severn eisiau stopio hynny rhag digwydd eto.

Gyda bil cyfreithiol posibl o £60,000, maen nhw’n galw am roddion gan unrhyw unigolyn, fyddai’n helpu i ddiogelu nifer fawr o rywogaethau pysgod ac ecoleg.

‘Ceisio osgoi craffu pellach’

“Mae cawr ynni yn cymryd iechyd, lles a natur dda pobl Bryste a chymunedau eraill Hafren yn ganiataol wrth fwrw ymlaen â’r cynlluniau hyn,” meddai Cian Ciarán, y llefarydd ar ran Save The Severn.

“Mae EDF yn mynd ar drywydd hyn gan wybod bod dympio 2018 ger Caerdydd yn anghyfreithlon, felly yn hytrach maent yn ceisio osgoi craffu pellach drwy redeg i ochr Saesneg yr Aber.

“Mae’n rhaid i ni ddod at ein gilydd fel cymuned ac fel pobol i ddiogelu ein Hafren gwerthfawr a’i ecoleg.”