Wrth gyhoeddi’r gorymdeithiau annibyniaeth nesaf, mae Pawb Dan Un Faner Cymru yn dweud bod “y pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw gallu gwneud penderfyniadau yma yng Nghymru”.

Bydd yr orymdaith gyntaf yn Wrecsam ar Orffennaf 2, gyda’r ail yng Nghaerdydd ar Hydref 1 ar ôl gorfod canslo’r rhai gwreiddiol yn 2020 yn sgil Covid-19 a dechrau’r cyfyngiadau clo.

“Mae’n wych gallu cyhoeddi’r ddau ddyddiad hyn,” meddai llefarydd ar ran Pawb Dan Un Faner Cymru.

“Bu’n gyfnod rhwystredig ers ein gorymdaith ddiwethaf ym Merthyr, yn enwedig gorfod canslo’r gorymdeithiau a gafodd eu trefnu yn 2020.

“Ond os rhywbeth, mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw gallu gwneud penderfyniadau yma yng Nghymru, er lles pobol yma yng Nghymru.

“Alla i ddim aros i fynd i Wrecsam o’r diwedd – bydd hi’n wych!”

‘Annibyniaeth yw’r offeryn ar gyfer dyfodol gwell’

“Mae pawb yn cydnabod fod y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd, ond un o’r datblygiadau positif iawn yw’r twf yn nifer y grwpiau lleol sy’n cefnogi annibyniaeth, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau,” meddai wedyn.

“Rydyn ni’n gobeithio gallu defnyddio’r gorymdeithiau hyn i wneud rhywbeth tebyg – mae wedi bod yn brofiad anhygoel cael mynd i’r strydoedd gyda phobol eraill sy’n rhannu’r un amcanion â ni – ond rydyn ni eisiau helpu i wneud gwahaniaeth parhus yn y llefydd rydyn ni’n byw a gweithio, i ddangos i bawb mai annibyniaeth yw’r offeryn ar gyfer dyfodol gwell.”

Pwy yw Pawb Dan Un Faner Cymru?

Mudiad llawr gwlad yw Pawb Dan Un Faner Cymru.

Maen nhw’n trefnu gorymdeithiau yn galw am annibyniaeth i Gymru.

Cafodd yr orymdaith gyntaf ei threfnu yng Nghaerdydd yn 2019, gyda dwy orymdaith arall wedyn yng Nghaernarfon a Wrecsam.

Mudiad amhleidiol gwirfoddol yw Pawb Dan Un Faner, ond maen nhw’n cydweithio â grwpiau ac unigolyn sy’n rhannu’r un nodau ac amcanion.

Nod y mudiad yw annog pobol i wneud pethau drostyn nhw eu hunain, gan gynnig cefnogaeth ac arbenigedd i’w helpu nhw i wneud hynny.