Fe fydd achos llys tri o bobol sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio’r bachgen bach pump oed Logan Mwangi o Ben-y-bont ar Ogwr yn dechrau heddiw (dydd Llun, Chwefror 14).
Cafwyd hyd iddo ar lannau afon ger ei gartref yn Sarn ar Orffennaf 31 y llynedd, a bu farw’n ddiweddarach.
Mae ei fam Angharad Williamson (30), ei phartner John Cole (39) a llanc 14 oed nad oes modd ei enwi, wedi’u cyhuddo o’i lofruddio rhwng Gorffennaf 28 ac Awst 1.
Mae’r tri hefyd wedi’u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud ei gorff i ardal ger yr afon, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely gwaedlyd a rhoi gwybod i’r heddlu ar gam am berson ar goll.
Mae Williamson a’r llanc wedi pledio’n ddieuog, tra bod Cole yn gwadu llofruddio ond yn cyfaddef iddo wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae Cole a Williamson wedi’u cadw yn y ddalfa ers iddyn nhw gael eu cyhuddo, tra bod y llanc yng ngofal yr awdurdod lleol.
Cefndir
Rhoddodd Angharad Williamson wybod i’r heddlu am oddeutu 5.45yb ar Orffennaf 31 fod ei mab ar goll, gan ddweud bod rhywun wedi ei gipio.
Cafwyd hyd i Logan Mwangi ar lannau’r afon a’i gludo i’r ysbyty lleol, lle bu farw.
Mae lle i gredu iddo ddioddef nifer o anafiadau cyn ei farwolaeth, gan gynnwys anafiadau i’w organau ac i gefn ei ben a’i ysgwydd.
Bydd aelodau’r rheithgor yn cael eu dewis yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf, ac mae disgwyl i’r achos yn Llys y Goron Caerdydd bara oddeutu chwe wythnos.
Yn ystod yr ail wythnos, bydd aelodau’r rheithgor yn ymweld â nifer o leoliadau sy’n allweddol i’r achos.