“Byddai cael cyrsiau dwys mewn ardaloedd llai Cymraeg yn hynod o allweddol i godi cenhedlaeth newydd o siaradwyr,” yn ôl Heini Gruffudd.
Daw ei sylwadau ar ddiwrnod dathlu 60 mlynedd ers darlledu darlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, wrth iddo bwysleisio bod “tymheredd gwleidyddol Cymru erbyn y ’70au o blaid y Gymraeg wedi codi lot”.
Bedair blynedd wedi’r ddarlith, enillodd Gwynfor Evans sedd Caerfyrddin yn enw Plaid Cymru a’i cholli bedair blynedd yn ddiweddarach, ond fe ail-enillodd e Gaerfyrddin eto ganol y 1970au, gyda Dafydd Wigley a Dafydd Elis-Thomas bellach ar y llwyfan gwleidyddol yng Nghymru.
“Roedd y Blaid wedyn bron ag ennill y Rhondda, Merthyr a Chaerffili yn y cyfnod yna,” meddai Heini Gruffudd.
“Felly roedd pobol yn fwy hyderus yn eu Cymreictod – twf ysgolion Cymraeg, bendant yr Wlpanau a dysgu Cymraeg i oedolion a dyna gyfnod dechrau’r papurau bro hefyd.
“Hynny yw roedd e’n gyfnod o fwrlwm a chadw’r bwrlym yna sydd eisiau.
“Erbyn hynny, doedd dim un o’r mudiadau ry’n ni wedi sôn amdanyn nhw yn ymwneud â statws fel y cyfryw. Dim ond Cymdeithas yr Iaith oedd yn ymwneud â statws, a diolch am hynny hefyd, ond ro’n nhw’n ymwneud â rhoi’r hyder i bobol allu byw yn helaethach drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Hwnna yn y pen draw yw dechrau popeth, hynny yw bo chi’n creu cartrefi Cymraeg a chyfleoedd cymunedol i ddefnyddio’r iaith.”
Yr Wlpanau
Yn rhan o hynny, byddai cyfle i bobol oedd yn dysgu Cymraeg fynd ar gwrs dwys yn Llanbed, ac roedd y gwersi hefyd yn cael eu cynnal yn fwy rheolaidd.
“Fel yng Nghaerdydd, roedd y tiwtoriaid yn wirfoddol, pum noson yr wythnos a dwy awr y nos,” meddai Heini Gruffudd wrth golwg360, cyn mynd yn ei flaen i enwi rhai o’r bobol fwyaf adnabyddus yn y dosbarthiadau cyntaf.
“Fi’n cofio Nigel Jenkins, y bardd, a John Mahoney y pêl-droediwr. Ac wedyn boi lleol, Jeff Roberts yr adeiladwr… hynny yw, roedd gyda ni lu o bobol leol, rhai diwylliedig a rhai eraill â sgiliau crefft.
“Achos bod y cwrs mor ddwys, ro’n nhw’n dysgu Cymraeg yn gyflym ac o fynna, ohonyn nhw ddaeth y galw am gael rhyw fath o le yn Abertawe le fydden nhw’n gallu defnyddio’r Gymraeg.
“Hwnna, mewn gwirionedd oedd tu ôl i sefydlu Tŷ Tawe maes o law.
“Mae gyda ni yma yn Abertawe, erbyn hyn, gnewyllyn helaeth o rai oedd wedi dysgu’r iaith oedd eisiau cyfleoedd i siarad yr iaith ymhellach tu fa’s i’r dosbarth.”
Y tu hwnt i’r Fro Gymraeg
Er bod Abertawe y tu allan i’r Fro Gymraeg draddodiadol y soniodd Saunders Lewis amdani yn ei ddarlith radio 60 mlynedd yn ôl, dywed Heini Gruffudd fod bwrlwm yn y ddinas er bod pobol yn gorfod chwilio mwy am gyfleoedd i siarad yr iaith nag y bydden nhw mewn ardaloedd mwy Cymraeg.
“Mewn cymunedau Cymraeg, byddai cyfleoedd ar gael yn naturiol ond mewn cymunedau llai Cymraeg – dyma’r cyfnod pan oedd Clwb Ifor Bach wedi dechrau hefyd, a maes o law y ganolfan ym Merthyr – roedd angen rhoi cyfle i bobol greu cymuned Gymraeg mewn ardal lai Cymraeg,” meddai.
“Rhaid cofio yr un pryd, roedd llu o bethau eraill yn digwydd hefyd.
“Dyma’r cyfnod pan fyddai brwydro dros ysgolion Cymraeg mewn ardaloedd llai Cymraeg. Fi’n cofio, dyma’r cyfnod pan oedd ymgyrchu dros sefydlu ysgol gyfun yn Abertawe. Parhaodd y frwydr flynyddoedd.
“Ond roedd yna ryw frwdfrydedd dros sefydlu amodau gwell i’r Gymraeg, hyd yn oed mewn ardaloedd llai Cymraeg.
“Byddai pobol yn dod i’r Wlpan achos bo nhw eisiau nid jyst cael y Gymraeg a gwybodaeth am y Gymraeg neu gael y Gymraeg fel iaith ddefnyddiol, ond roedd yna gnewyllyn cryf, ddywedwn i, ohonyn nhw eisiau byw drwy’r Gymraeg.
“Ro’n nhw’n fodlon rhoi amser, dwy awr bob noson yr wythnos am dymor, 100 awr, ac wedyn ehangodd y peth i ddau dymor, 200 awr, fel bo nhw’n dod yn rhan o fywyd Cymraeg newydd i’r fath raddau fyddai pobol fel Jeff Roberts yr adeiladwr wedi newid enwau ei blant i enwau Cymraeg a gwneud yn siwr bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio gartre’.”
Newid pwyslais
Rai degawdau bellach ers sefydlu’r cyrsiau Wlpan, mae Heini Gruffudd yn teimlo bod newid pwyslais wedi bod yn y cyrsiau, sy’n golygu nad yw hi mor hawdd dysgu Cymraeg mor gyflym erbyn hyn.
“Erbyn hyn, maen nhw’n dod i’r Wlpan ddwywaith yr wythnos lle, gynt, fyddai e’n bum gwaith yr wythnos,” meddai.
“Felly mae colli’r dwyster dysgu yna’n peri bod y dysgu dipyn bach yn llai effeithiol.”