Dywedodd Saunders Lewis yn ei ddarlith Tynged yr Iaith ar Chwefror 13, 1962 y byddai colli’r iaith Gymraeg “yn sioc a siom i’r rheini ohonom sy’n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg”. Ond mynnodd hefyd, “Fe ellir achub y Gymraeg”.

Unarddeg o flynyddoedd wedi’r ddarlith radio y cafodd y cyrsiau Wlpan cyntaf eu sefydlu gan Chris Rees, a’u nod oedd dysgu pobol i siarad Cymraeg mewn cyfnod mor fyr â phosib, gan ddefnyddio dull ailadroddus o ddysgu brawddegau.

Er nad oes cysylltiad uniongyrchol rhwng y ddarlith a sefydlu’r Wlpan, mae’n bosib dadlau bod y naill wedi arwain yn anuniongyrchol at y llall.

Daeth y cyrsiau yn y pen draw i Abertawe, ac un o’r tiwtoriaid cyntaf yno oedd Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

“Dwi’n cofio pan o’n i’n fyfyriwr ymchwil yn Abertawe yn y brifysgol, cael gwahoddiad gan Heini Gruffudd i fod yn diwtor ar gwrs Wlpan,” meddai wrth golwg360. “Doedd dim syniad gyda fi ar y pryd beth oedd cwrs Wlpan!

“Felly wnes i gytuno ac edrych i weld sut oedd Heini a Robat Powell yn mynd ati i wneud, a gweld bod e’n ffordd wahanol iawn a chyffrous dros ben o gyflwyno’r Gymraeg.

“Roedd dysgwyr yn dod bum noson yr wythnos, hyd yn oed ar nos Wener bryd hynny, am ddwy awr bob nos i ddysgu Cymraeg ac os dw i’n cofio, roedd y cwrs yn rhedeg am ryw ddeuddeg wythnos.

“A ges i gymaint o flas ar weld cynnydd aruthrol ymhlith dysgwyr, hynny yw sut oedden nhw’n cael gafael ar yr iaith Gymraeg mewn amser mor fyr, fe es i am swydd yn y brifysgol yn Abertawe ddaeth lan ryw flwyddyn wedyn. A chael y swydd fel Tiwtor-drefnydd Dysgu Cymraeg i Oedolion yn yr hen Orllewin Morgannwg a Dwyrain Dyfed fel oedd hi, fwy neu lai Sir Gaerfyrddin i gyd.

“A chael amser wrth fy modd, a dweud y gwir!

“Ro’n i wedyn yn mynd ati i drefnu cyrsiau Wlpan y tu fa’s i Abertawe – dwi’n cofio cyrsiau Wlpan bedair neu bum noson yr wythnos yn cael eu cynnal gen i yn Llanelli, Pontardawe, Castell-nedd, yng Nglyn-nedd ac yn Rhydaman. Dwi’n cofio pobol yn tyrru i’r cyrsiau ac roedd y bwrlwm bryd hynny’n rywbeth arbennig iawn, iawn. Roedd pobol yn gweld bod e’n gwrs newydd sbon.

“Roedd pobol wrth eu bodd achos roedd pobol yn awyddus i ddysgu Cymraeg mewn amser mor fyr â phosibl, ac ro’n nhw’n gweld bod modd gwneud hyn ar y cyrsiau Wlpan.”

Y brifddinas a’r cymoedd

Ar ôl pum neu chwe mlynedd yn Abertawe, cafodd Cefin Campbell swydd debyg ym Mhrifysgol Caerdydd, lle’r oedd e hefyd yn gyfrifol am fynd â’r cyrsiau i ardaloedd diwydiannol mwy Seisnigedig cymoedd y de-ddwyrain.

Ai dyma gychwyn y “dulliau chwyldro” mewn ardal oedd wedi colli ei Chymreictod “ers dwy a thair a phedair cenhedlaeth”, felly?

“Dwi’n cofio cynnal cyrsiau Wlpan a’u trefnu nhw mewn llefydd fel Caerffili, Casnewydd, Cwm Rhymni… ac yn cofio mynd lan i Ystrad Mynach. Roedd cwrs Wlpan draw ym Mhen-y-bont, Cwmbrân…

“Roedd shwd frwdfrydedd bryd hynny, roedd holl faes Dysgu Cymraeg i Oedolion yn rhywbeth newydd iawn, iawn ac roedd shwd deimlad bryd hynny bod yna bethau mawr yn digwydd o ran y maes arbennig yna.

“Beth oedden ni’n gweld yn y cymoedd ac yn debyg iawn yn ardal Abertawe hefyd a llefydd fel Llanelli a Phontardawe, oedd cymaint o rieni oedd yn dod i ddysgu Cymraeg oherwydd bod eu plant nhw mewn addysg Gymraeg.

“Ro’n nhw’n cael boddhad mawr o ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â’u plant.

“Ond beth oedd yn wahanol am y cyrsiau ro’n i’n trefnu yng nghymoedd y de-ddwyrain oedd bod nifer o’r rhain yn ystod y dydd. Felly roedd y mamau’n gallu dod i ddysgu Cymraeg yn ystod y dydd tra bod eu plant nhw mewn addysg neu mewn cylch meithrin.

“Roedd y brwdfrydedd yn heintus bryd hynny, a dwi’n siwr bod hynny wedi arwain at fwy ohonyn nhw yn lledu’r gair am fanteision dysgu Cymraeg eu hunain a manteision addysg Gymraeg, wrth gwrs.”

Cwrs dwys yn Llanbed

Wrth i’r Wlpan gyrraedd mwy o lefydd ledled Cymru, daeth cyrsiau dwys ym Mhrifysgol Llanbed yn rhan annatod o’r profiad o ddysgu Cymraeg, ac mae Cefin Campbell yn cofio cael ei synnu o weld yr amrywiaeth o bobol oedd yn mynd ati dros gyfnod o wyth wythnos i ymgolli yn yr iaith.

“Roedd pobol yn dod am wyth wythnos gyfan ac yn cael gwersi o fore gwyn tan nos.

“Roedd pobol o dros y byd i gyd yn dod ar y cyrsiau yma. Dwi’n cofio’r cwrs cyntaf, roedd yna bobol o’r Unol Daleithiau, o Iwerddon, o Lydaw, yr Alban, roedd yna ferch o Japan, bachgen o Wlad yr Iâ. Peidiwch â gofyn i fi pam o’n nhw yno ond ro’n nhw jyst wedi ymddiddori yn yr iaith!

“Roedd e jyst yn un o bleserau fy mywyd bryd hynny, mynd i gwrs Llanbed a chwrdd â phobol mor ddiddorol.”

Y tiwtor sy’n anelu am y miliwn fel gwleidydd

Cafodd Cefin Campbell ei ethol i’r Senedd y llynedd, ac mae e bellach yn cynrychioli Plaid Cymru fel Aelod Dynodedig yn y cytundeb cydweithredu â Llywodraeth Lafur Cymru.

Rhan annatod o’r gwaith hwnnw fydd cryfhau’r iaith Gymraeg, gyda’r nod o geisio gwireddu uchelgais y Llywodraeth o sicrhau Miliwn o Siaradwyr erbyn 2050, gan roi’r cyfle iddo ddatblygu ar ei oes o waith ym maes Cymraeg i Oedolion.

“Dwi yn y maes cynllunio iaith ers deng mlynedd ar hugain, felly mae cael ymrwymiad y Llywodraeth i gyrraedd at filiwn o siaradwyr Cymraeg yn rhywbeth dwi’n croesawu,” meddai.

“A dwi’n falch fel Aelod o’r Senedd bod y cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth yn golygu ein bod ni bellach yn gallu dod â Bil Addysg Gymraeg newydd gerbron cyn bo hir, a bod cyhoeddiad wedi bod am arian sydd yn golygu bod gwersi dysgu Cymraeg yn mynd i bob person ifanc rhwng 16-25 mlwydd oed. Mae’r pethau yna’n symud yr agenda iaith ymlaen yn sylweddol iawn, iawn.

“Wrth gwrs, mae’r sector wedi tyfu ac erbyn hyn, mae gyda ni Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sydd yn cydlynu cyrsiau dros Gymru gyfan,” meddai am dwf Cymraeg i Oedolion ers y dyddiau cynnar hynny pan fentrodd i’r maes yn diwtor yn Abertawe.

“Felly mae e wedi mynd o hedyn bach iawn i rywbeth cenedlaethol sydd yn derbyn miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru.”

Cyrsiau dwys mewn ardaloedd llai Cymraeg yn “allweddol i godi cenhedlaeth newydd o siaradwyr”

Alun Rhys Chivers

Mae creu cartrefi Cymraeg a chyfleoedd cymunedol i ddefnyddio’r iaith hefyd yn hollbwysig, medd Heini Gruffudd 60 mlynedd ers Tynged yr Iaith