Gydag argyfwng recriwtio yn wynebu’r sector gofal ac addysg blynyddoedd cynnar, mae Mudiad Meithrin yn cynnal wythnos i dynnu sylw at y gyrfaoedd yn y maes.
Bydd Wythnos Dathlu Gofal Plant, sy’n dechrau ddydd Llun (Chwefror 14), yn rhoi sylw i gynlluniau hyfforddiant Gofal Plant Mudiad Meithrin a’r profiadau sydd i’w cael wrth weithio â phlant bach.
Yn ystod yr wythnos, bydd digwyddiadau ffrydio byw yn cael eu cynnal er mwyn denu myfyrwyr i ddilyn cynllun prentisiaid ym maes gofal plant.
Fe fydd cyfres o ffilmiau byw yn cael eu rhyddhau er mwyn rhoi blas ar waith mewn Cylchoedd Meithrin a meithrinfeydd dydd dros Gymru hefyd.
‘Amrywiaeth wych o swyddi’
Dywed Helen Williams, Pennaeth Hyfforddiant Mudiad Meithrin, fod y Cylchoedd Meithrin a’r meithrinfeydd dydd wedi bod yn ei chael hi’n anodd denu a chadw staff ers “nifer o flynyddoedd”.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at wythnos llawn bwrlwm fydd yn dangos yr amrywiaeth wych o swyddi sydd ar gael yn y sector yma a’r boddhad sydd i’w gael wrth weithio efo plant ifanc,” meddai.
“Rydyn ni’n awyddus i ddangos felly bod hwn yn faes sydd wir ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygiad babanod a phlant.
“Mae cyfleodd unigryw i helpu siapio’r genhedlaeth nesaf yn ogystal, wrth gwrs, â chyflwyno’r Gymraeg neu i gyfoethogi’r Gymraeg sydd ganddyn nhw’n barod.
“Trwy’r cyrsiau rydyn ni’n eu cynnig, gall pobl dderbyn hyfforddiant o’r safon uchaf drwy gyfrwng y Gymraeg – cyrsiau all arwain at addysg bellach a gradd prifysgol, neu yn syth at waith sy’n rhoi boddhad ac yn cynnig hyblygrwydd, ym mhob rhan o Gymru.”
Mae Helen Williams yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y maes i ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos i ddysgu mwy a chael blas ar yr hyn sy’n cael ei gynnig o ran hyfforddiant a gwaith.
Mae’r digwyddiadau’n cynnwys gweminar ‘Cynllun Prentisiaeth Gofal Plant’ ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn derbyn hyfforddiant i weithio gyda phlant, a fydd yn cael ei gynnal fore dydd Gwener (Chwefror 18).