Mae Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wedi cael ei ddisgrifio fel “dyn hoffus gydag ymroddiad cadarn i Gymru a’i gymuned yn Rhos” yn dilyn ei farwolaeth yn 59 oed ddydd Sul (Chwefror 13).
Dechreuodd ar ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg ym mis Ebrill 2019 a chyn hynny, bu’n Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol.
Cafodd ei eni a’i fagu yn Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, cyn mynd yn ei flaen i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Gweithiodd fel cyfreithiwr am nifer o flynyddoedd yn ardaloedd Wrecsam, Rhuthun a’r Wyddgrug.
Bu’n cynrychioli ardal Rhos a’r Ponciau ar Gyngor Wrecsam, cyn cael ei ethol yn Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn 2005.
Fe fu’n arwain y Cyngor nes cael ei ethol i’r Cynulliad dros ranbarth Gogledd Cymru yn 2011, ac roedd yn llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Addysg, Plant a Phobol Ifanc, a’r Gymraeg yn y Senedd.
Ar ôl gwasanaethu am dymor yn y Senedd, cynhaliodd adolygiaeth annibynnol o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar ran Llywodraeth Cymru, a bu’n cadeirio’r bwrdd oedd yn gyfrifol am weithredu’r argymhellion.
‘Dyn hoffus’
“Rydyn ni wedi ein tristau yn fawr heddiw o glywed am farwolaeth Aled Roberts,” meddai’r Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
“Roedd yn ffigwr uchel tu hwnt ei barch fel llefarydd CLlLC dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai am flynyddoedd lawer.
“Yn was cyhoeddus drwyddi draw, bu’n gwasanaethu ei gymuned yn rhagorol fel cynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam cyn cael ei ethol yn arweinydd yr awdurdod yn 2007.
“Bu Aled yn parhau i fod yn ladmerydd brwd dros leoliaeth ac addysg wedi ei etholiad i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2011 a chadwodd berthynas weithio agos, adeiladol gyda CLlLC a llywodraeth leol wedi ei apwyntiad fel Comisiynydd y Gymraeg yn 2019.
“Yn ddyn hoffus gydag ymroddiad cadarn i Gymru a’i gymuned yn Rhos, mae Aled yn gadael gwaddol anferth o wasanaeth cyhoeddus.
“Bydd pawb oedd wedi gweithio ag o yn teimo’r golled yn arw, ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf gyda’i deulu a’i gyfeillion ar yr amser trist yma.”
‘Colled fawr ar ei ôl’
“Roedd ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus yng Nghymru yn amlweddog dros nifer o flynyddoedd,” meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
“Bu Aled yn gefnogol iawn i waith y Coleg tra’n aelod o’r Senedd, gan gynnwys cefnogi’r awgrym o ymestyn cyfrifoldebau’r Coleg i’r sector addysg bellach a phrentisiaethau.
“Pleser oedd cydweithio ag e yn fwy diweddar yn ei waith fel Comisiynydd y Gymraeg a bydd colled mawr ar ei ôl.
“Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf i Llinos a’r teulu.”
‘Ergyd i Gymru a’r Gymraeg’
Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd wedi datgan tristwch o glywed am ei farwolaeth.
Dywedodd Heini Gruffudd, cadeirydd y mudiad, fod “colled gynamserol Aled Roberts yn ergyd i Gymru a’r Gymraeg”.
“Gwerthfawrogwn ei gyfraniad, a’i arweiniad cadarn, yn ogystal â’i bwyslais ymarferol ar ddefnydd y Gymraeg a’i angerdd dros yr iaith,” meddai.
“Cydymdeimlwn yn ddwys â theulu Aled Roberts drwy’r cyfnod trist hwn.”
Jane Dodds yn talu teyrnged yn y Senedd
Yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 15 Chwefror), fe wnaeth Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds hefyd dalu teyrnged i Aled Roberts.
Heddiw fe wnes i dalu teyrnged i Aled Roberts yn y Senedd. Roedd Aled yn gawr yn ein plaid a bydd ei golled yn fawr iawn i bawb a oedd yn ei adnabod. pic.twitter.com/rI7joZBPD2
— Jane Dodds AS/MS ???????? (@DoddsJane) February 15, 2022