Mae Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i leddfu’r argyfwng costau byw, gan gynnwys cyflwyno treth ar gynhyrchwyr olew a nwy ym Môr y Gogledd.
Daw ei sylwadau wrth gyhoeddi pecyn cymorth gwerth £330m i helpu pobol i ymdopi â chostau byw cynyddol.
Mae disgwyl i fwy na miliwn o aelwydydd yng Nghymru elwa ar daliad cost-byw o £150 i gartrefi band A-D y dreth gyngor.
Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 15), dywedodd Rebecca Evans y byddai Llywodraeth Cymru’n “gweithio gydag awdurdodau lleol i gwblhau’r gwaith o gyflwyno’r cynllun fel ei fod e mor effeithiol â phosib”.
Mae disgwyl i’r taliadau ddod ar gost o £152m i’r Llywodraeth ac maen nhw’n rhan o becyn gwerth £330m i helpu pobol i ymdopi â chostau byw cynyddol.
‘Mynd i’r afael â thlodi bwyd’
Dywedodd Rebecca Evans fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda 40 o sefydliadau i fynd i’r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd, yn ogystal ag ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.
Ychwanegodd fod y taliad “bron yn ddwbl” yr hyn sydd ar gael i gartrefi yn Lloegr, ac y byddai’r polisi yn cael ei gyflawni heb unrhyw arian ychwanegol gan San Steffan.
Wrth siarad yn y gynhadledd i’r wasg, dywedodd y bydd £156m arall yn cael ei ddyrannu i nifer o gynlluniau i helpu pobol gyda biliau yn 2022 a 2023.
Ymhlith y cynlluniau mae estyniad i gymorth tanwydd gaeaf, sy’n golygu y bydd mwy o bobol yn derbyn taliad o £200.
Nod y gronfa yw helpu pobol i dalu am gostau hanfodol fel bwyd, tanwydd a dillad.
‘Helpu mwy na 270,000 o aelwydydd’
Dywedodd Rebecca Evans fod y cyhoeddiad diweddaraf yn dod ar ben y cynlluniau cymorth presennol.
“Mae ein cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor yn helpu mwy na 270,000 o aelwydydd y flwyddyn gyda’u biliau treth gyngor,” meddai wedyn.
“Nid yw tua 220,000 o aelwydydd yn talu dim o gwbl.
“Mae dros 67,000 o gartrefi wedi elwa ar ein rhaglen Cartrefi Cynnes, gan wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref.
“Mae ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf, yr ydym wedi’i ymestyn heddiw, yn parhau i fod ar agor yn y flwyddyn ariannol hon.”
Galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy
“Mae angen i lawer o’r atebion ddisgyn mewn meysydd sydd heb eu datganoli, lle mae’n gyfrifoldeb ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth,” meddai Rebecca Evans.
“Roedd ei ddylanwad ar fywydau pobol yn amlwg yr hydref diwethaf.
“Ni fydd pobol wedi anghofio’r penderfyniad creulon i ddileu’r codiad o £20 yr wythnos ar gyfer Credyd Cynhwysol.
“Daeth hynny er gwaethaf rhybuddion gan lawer o sefydliadau, gan gynnwys y Llywodraeth hon, y byddai’n gwthio pobol tuag at drafferthion ariannol.
“Felly, mae angen i ni weld newid mewn dull gweithredu o San Steffan – mae angen iddynt wrando, dysgu, a chamu fyny i helpu pobol.
“Gallai treth annisgwyl ar gynhyrchwyr olew a nwy Môr y Gogledd gefnogi pobol drwy’r argyfwng hwn.”