Mae’r cyfrifoldeb dros yr argyfwng tai yn “gorwedd yn llwyr ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru”, meddai Heledd Gwyndaf, cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
Bydd Heledd Gwyndaf yn siarad yn rali Nid yw Cymru ar Werth yn Aberystwyth ddydd Sadwrn (Chwefror 19) er mwyn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn diogelu cymunedau.
Ychydig dros 60 mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi darlith Tynged yr Iaith, a arweiniodd at brotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan yn Aberystwyth, bydd y rali yn dechrau yno gydag anerchiad ganddi.
Fe fydd gorymdaith drwy Aberystwyth wedyn, cyn i rali ymgynnull tu allan i swyddfeydd Llywodraeth Cymru.
‘Gweddi’n groch’
“Hyn a hyn” y mae cynghorau lleol yn gallu ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng, yn ôl Heledd Gwyndaf.
“Mae pawb yn gweiddi’n groch am reoleiddio ein marchnad dai – mae’r angen mor eglur â’r dydd ac atebion wrth law,” meddai Heledd Gwyndaf wrth golwg360.
“Mae pobol ar lawr gwlad yn galw amdano, mae cynghorau plwyf a chymuned yn galw amdano, mae cynghorau sir yn galw amdano – mae’r cyfrifoldeb nawr yn gorwedd yn llwyr ar ysgwyddau Llywodraeth Lafur Cymru.
“Hyn a hyn o godi trethi gwyliau a chodi tai y gallwn ni ei wneud – maen nhw fwy neu lai yn ddiwerth heb y rheoliadau sydd eu hangen.”
Mae’r un peth yn wir am dir sy’n cael ei werthu mewn “modd anghynaladwy i gwmnïau mawr o bant yn enw ‘cynaladwyedd’ a hynny gyda chymorth arian trethdalwyr”, meddai.
“Mae’n rhaid gweithredu wrth i filoedd o erwau o dir ffrwythlon gael ei werthu i gwmnïau mawrion iddyn nhw blannu coed gydag arian trethdalwyr Cymru.”
Prif neges Heledd Gwyndaf ddydd Sadwrn yw mai ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru mae’r cyfrifoldeb, ac mai “dyna le ddylai ein holl egni fod wedi’i ganolbwyntio arno”.
“Ynghanol y ddadl am ail dai, rhaid i ni beidio anghofio am y brif broblem chwaith, sef y mewnlifiad enfawr, anghynaladwy o bobol yn dod i fyw yma,” meddai.
“Mae rhaid i’r Llywodraeth weithredu ar frys – mae pob math o atebion i gael megis capio nifer tai gwyliau, gorfod byw mewn ardal am gyfnod cyn gallu prynu cartref neu dir, symud cyfrifoldeb i’r cynghorau cymuned – rhaid iddyn nhw weithredu.”
‘Brwydr dros ddyfodol cymunedau’
Ymhlith y rhai eraill fydd yn siarad yn y rali mae Bryn Fôn; Mabli Siriol, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith; Mared Edwards, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth; a Gwenno Teifi, sy’n trio prynu tŷ yn ei chymuned; a bydd cerddoriaeth gan Tecwyn Ifan.
“Brwydr dros ddyfodol ein cymunedau lleol yw hon felly dewch â phoster neu arwydd gydag enw eich cymuned arno i’r rali, byddwn ni’n eu rhoi nhw i gyd i’r llywodraeth yn eu swyddfa yn Aberystwyth,” meddai Nid yw Cymru ar Werth.
“Yn uchafbwynt i’r rali, gallwn ni ddangos bod pob un o’r cymunedau hyn yn werth eu hachub.”
Bydd y rali’n dechrau ger Pont Trefechan am 1:30 ddydd Sadwrn (Chwefror 19).