Mae cyn-weithwyr Swyddfa’r Post a gafodd eu cyhuddo ar gam o ddwyn, twyll, a chadw cyfrifon ffug wedi galw am garcharu’r rhai oedd yn gyfrifol am eu cyhuddiadau.
Rhwng 2000 a 2014, cafodd dros 700 o is-bostfeistri eu herlyn ar sail gwybodaeth gan system gyfrifiadurol Horizon a gafodd ei gosod a’i chynnal gan Fujitsu.
Fe wnaeth barnwr yn yr Uchel Lys ddyfarnu bod system Horizon yn cynnwys nifer o ddiffygion, ac ers hynny mae cyhuddiadau rhai o’r is-bostfeistri wedi cael eu gwyrdroi.
Damian Owen “eisiau ymddiheuriad”
Dywedodd Damian Owen, o Ynys Môn – a oedd yn rheolwr ar swyddfa bost ac a gafodd ei garcharu am wyth mis am ddwyn £25,000 – wrth ymchwiliad yn Llundain ei fod eisiau gweld y rhai oedd yn gyfrifol am y cyhuddiadau’n cael eu cosbi.
“Dydy carchar ddim y math o le dw i eisiau bod ynddo… fe wnes i golli andros o lot o bwysau, tua phedair stôn mewn deg wythnos,” meddai Damian Owen.
Dywedodd ei fod wedi gofyn am help ar gyfer ei lesiant meddyliol, ac wedi dechrau gweithio swyddi “ar waelod yr ysgol” oherwydd ei record droseddol.
Pan ofynnwyd iddo beth fyddai’n ei hoffi gan y Swyddfa Bost, dywedodd nad oedden nhw’n barod i “wneud dim i helpu mewn unrhyw ffordd, dydyn nhw ddim eisiau helpu mewn unrhyw ffordd”.
“Fyswn i’n hoffi ymddiheuriad iawn, a wna i ddim osgoi’r ffaith, dw i eisiau swm iawn o arian ganddyn nhw,” meddai.
“Fe wnes i dreulio deng mlynedd yn gwneud swyddi diraddiol sydd ymhell o dan fy ngallu.
“Dw i eisiau arian call, ymddiheuriad iawn, a dw i eisiau gweld cyhuddiadau ar gyfer y bobol oedd yn gyfrifol am yr holl gynllwyn oddi mewn i’r Swyddfa Bost.
“Rydych chi’n gwybod bod pawb o’r top lawr yn gwybod, ac yn gwthio am gyhuddiadau.”
“Rhaid i rywun fod yn atebol”
Rhoddodd Margery Lorraine Williams, 55 – a oedd yn berchen swyddfa bost yn Llanddaniel Fab ger Llangefni ar Ynys Môn – dystiolaeth i’r ymchwiliad hefyd.
Roedd hi’n berchen ar y swyddfa ers 2009, ond yn 2011, cafodd ei thrwydded ei gohirio a chafodd ei chyhuddo o bedwar achos o dwyll.
Dywedodd wrth yr ymchwiliad ei bod hi wedi pledio’n euog gan nad oedd hi eisiau mynd i’r carchar a gadael ei merch, oedd yn ddeng mlwydd oed ar y pryd.
Derbyniodd ddedfryd o 52 wythnos o garchar wedi’i gohirio am ddeunaw mis, a siaradodd am y “cywilydd” a deimlodd.
“Roedd o’n ofnadwy oherwydd roedd o fel pentref bach i ni, ac roedd fy merch wedi tyfu i fyny yno o pan oedd hi’n un oed nes roedd hi bron yn 11.
“Mae gen i glefyd siwgr math 2 nawr ac alopesia creithiol, sy’n golygu bod y gwallt wedi mynd, a ddaw o ddim yn ôl,” meddai wrth siarad am yr effaith gorfforol arni.
“Roeddwn i’n feudwy, fyddwn i ddim yn mynd allan. Dw i dal ddim yn teimlo fel yr un person a dw i’n mynd yn flin weithiau.
“Dw i ddim yn ymddiried yn neb ddim mwy. Mae’n anodd iawn.”
Dywedodd fod ei merch wedi cael ei bwlio yn yr ysgol, a bod ei theulu wedi’i chael hi’n anodd yn ariannol.
Wrth ddweud beth y mae hi ei eisiau gan y Swyddfa Bost, dywedodd ei bod hi “eisiau iddyn nhw fynd i’r carchar am yr hyn maen nhw wedi’i wneud, ond eto byddai hynny’n fywyd hawdd iddyn nhw”.
“Bydden nhw’n dod allan a byddai ganddyn nhw bres yn dal i fod,” meddai.
“Dw i eisiau iddyn nhw deimlo’r ffordd y gwnes i deimlo a’r ffordd dw i wedi’i chael hi’n anodd yn ariannol.
“Dw eisiau i rywun gael eu dal yn atebol oherwydd mae hyn wedi mynd ymlaen am yn hir iawn ac mae pobol yn cuddio.
“Mae’n rhaid i rywun fod yn atebol am hyn.”
Cefndir
Mae disgwyl i’r ymchwiliad, sy’n ystyried a oedd y Swyddfa Bost yn gwybod am y diffygion yn y system gyfrifiadurol, barhau am weddill y flwyddyn.
Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried sut gafodd staff eu perswadio i gymryd y bai.
Dywedodd Jason Beer, cwnsler yn yr ymchwiliad, y gellir ystyried profiadau’r is-bostfeistri fel y “camweinyddiaeth cyfiawnder gwaethaf yn hanes diweddar y gyfraith ym Mhrydain”.