Mae’r gobaith am ddatrysiad diplomyddol i’r tensiynau rhwng yr Wcráin a Rwsia wedi cynyddu ychydig ar ôl i Weinyddiaeth Amddiffyn Rwsia gyhoeddi y byddan nhw’n tynnu rhai o’u milwyr oddi yno.

Ar ôl wythnosau o densiynau cynyddol dros yr Wcráin, fe wnaeth Gweinidog Tramor Rwsia, Sergey Lavrov, awgrymu bod Rwsia’n barod i drafod y pryderon diogelwch sydd wedi arwain at yr argyfwng.

Dydy hi ddim yn glir faint o filwyr fyddai’n gadael ac yn dychwelyd i’w safleoedd, a daeth y newyddion ar ôl i awdurdodau’r gorllewin ddweud bod rhai lluoedd yn symud tuag at y ffin â’r Wcráin.

Mewn cyfarfod gyda Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, ddoe (14 Chwefror) awgrymodd Sergey Lavrov eu bod nhw’n barod i drafod pryderon diogelwch.

Roedd hi’n ymddangos bod y sylwadau wedi’u paratoi er mwyn anfon neges i’r byd am agwedd Vladimir Putin, gan gynnig ychydig o obaith y gellir osgoi rhyfel.

“Awgrymu parhau â thrafodaethau”

Cododd ofnau am ymosodiad gan fod Rwsia wedi gosod dros 130,000 o filwyr ar ffiniau gogledd, deheuol, a dwyreiniol yr Wcráin. Maen nhw hefyd wedi lansio ymarferion milwrol ym Melarws, cynghrair i Rwsia sy’n ffinio â’r Wcráin.

Mae Rwsia’n gwadu unrhyw gynlluniau i oresgyn yr Wcráin, ac fe wnaeth Sergey Lavrov ddadlau y dylai Mosgo gynnal mwy o drafodaethau, er bod y gorllewin yn gwrthod ystyried prif ofynion Rwsia.

Ni all y trafodaethau “fynd ymlaen yn ddi-ben-draw, ond byddwn yn awgrymu parhau a’u hehangu nhw ar y pwynt hwn”, meddai Sergey Lavrov.

Mae Rwsia eisiau sicrwydd na fydd Nato yn caniatáu i’r Wcráin, na gwledydd eraill oedd yn rhan o’r Undeb Sofietaidd, ymuno fel aelodau.

Maen nhw hefyd am i’r gynghrair stopio rhoi arfau i’r Wcráin, a symud eu lluoedd o Ddwyrain Ewrop.

Dywedodd Sergey Lavrov bod y posibilrwydd i drafod “ymhell o fod wedi dod i ben”.

Dywedodd Vladimir Putin y gallai’r Gorllewin geisio tynnu Rwsia mewn i “drafodaethau diddiwedd”, a chwestiynodd a oes yna dal siawns o ddod i gytundeb.

Atebodd Sergey Lavrov drwy ddweud na fyddai ei weinyddiaeth yn caniatáu i’r Unol Daleithiau a’u cynghreiriaid wrthod prif ofynion Rwsia.

“Llwybr diplomyddol ar gael”

Wrth ymateb, dywedodd yr Unol Daleithiau bod y “llwybr ar gyfer diplomyddiaeth dal ar gael pe bai Rwsia’n dewis ymgysylltu’n adeiladol”.

“Fodd bynnag, rydyn ni’n eglur ynghylch rhagolygon hynny, o ystyried y camau mae Rwsia yn eu cymryd ar lawr gwlad heb guddio dim.”

Dywedodd un o swyddogion amddiffyn yr Unol Daleithiau bod nifer fach o unedau milwrol Rwsia ar y tir wedi bod yn symud allan o ardaloedd ymgynnull mwy ers sawl diwrnod, gan osod eu hunain yn agos i’r ffin â’r Wcráin.

Mae cwmni lluniau drwy loerennau wedi bod yn monitro’r sefyllfa, ac maen nhw wedi adrodd cynnydd mewn gweithgarwch milwrol gan Rwsia ym Melarws, y Crimea, a gogledd Rwsia, gan gynnwys hofrenyddion ac awyrennau rhyfel yn cyrraedd.

“Dan reolaeth”

Mae pennaeth cyngor amddiffyn a diogelwch yr Wcráin, Oleksiy Danilov, yn parhau i ddweud nad yw’r bygythiad am oresgyniad yn un mawr.

“Heddiw dydyn ni ddim yn gweld y gallai ymosodiad ar raddfa fawr gan Ffederasiwn Rwsia ddigwydd ar 16 na 17 Chwefror,” meddai wrth ohebwyr.

“Rydyn ni’n ymwybodol o’r peryglon sy’n bodoli o fewn tir ein gwlad. Ond mae’r sefyllfa dan reolaeth yn llwyr.”

Mae Arlywydd yr Wcráin, Volodymyr Zelenskyy wedi dweud y bydd dydd Mercher yn “ddiwrnod o undod cenedlaethol”, ac mae e wedi galw ar bobol i ddangos fflag y wlad a chanu’r anthem genedlaethol yn wyneb “bygythiadau hybrid”.

“Nid dyma’r bygythiad cryf cyntaf y mae pobol yr Wcráin wedi’i wynebu,” meddai Volodymyr Zelenskyy neithiwr mewn fideo i annerch y genedl.

“Dydyn ni heb gynhyrfu. Rydyn ni’n gryf. Rydyn ni gyda’n gilydd.”

Byddai goblygiadau “hollol enbydus” pe bai Rwsia’n ymosod ar yr Wcráin, medd Cwnsler Cyffredinol Cymru

Cadi Dafydd

Daw teulu Mick Antoniw AoS o’r Wcráin, ac mae ganddo berthnasau yno sy’n “bryderus iawn” yn sgil y tensiynau yn nwyrain Ewrop