Mae dynes a babi 11 mis oed wedi cael eu lladd mewn gwrthdrawiad rhwng car a lori yn Swydd Amwythig.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Mersia bod y ddamwain wedi digwydd ar yr A41 rhwng tref farchnad Newport a Tern Hill yn Swydd Amwythig tua 12.42yb fore dydd Mawrth.

Bu farw’r ddynes 35 oed a’r plentyn ifanc yn y fan a’r lle. Roedden nhw’n teithio o Newport mewn car Ford Focus.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y ddamwain, neu’r car yn cael ei yrru yn yr ardal, i gysylltu â nhw.

Cafodd tri ambiwlans a thri meddyg eu hanfon i’r safle ond er gwaetha ymdrechion i’w hachub bu farw’r ddynes a’r babi, a oedd mewn cyflwr difrifol.

Ni chafodd gyrrwr y lori ei anafu yn y digwyddiad.