Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cadarnhau y bydd eu holl staff yn derbyn diwrnod o wyliau ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Gyngor Gwynedd – un o’r siroedd y mae’r parc wedi ei lleoli ynddo – gyhoeddi gwyliau i’w staff ar 1 Mawrth.

Fe gafodd ei amcangyfrif y byddai’r cynllun yn costio tua £200,000 i’r awdurdod lleol, gydag ambell gynghorydd yn dadlau y gellid gwario’r arian ar roi gwyliau i athrawon, nyrsys, ac ati.

Dywed Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nad yw’r cynllun yn mynd i gostio llawer o arian iddyn nhw ei weithredu, gan nad oes llawer o’u staff yn gweithio yn ystod mis Mawrth beth bynnag.

Yn ôl yr Awdurdod, mae 138 o staff yn gweithio iddyn nhw i gyd, sy’n cynnwys 120 o staff llawn amser.

Ar hyn o bryd, dydy Dydd Gŵyl Dewi ddim yn Ŵyl y Banc swyddogol, er bod nifer wedi dangos yr awydd i weld diwrnod nawddsant Cymru yn derbyn y statws.

‘Wedi haeddu diwrnod arall o wyliau’

Cafodd y penderfyniad i roi diwrnod o wyliau ychwanegol i staff Parc Cenedlaethol Eryri ei wneud yn dilyn ymgynghoriad gyda’r holl weithlu.

Roedd y Parc yn awyddus i weld eu barn ynglŷn â’r cynllun, ar ôl cael eu dylanwadu gan arferion tebyg yn y gwledydd Celtaidd eraill i ddathlu nawddseintiau.

Dywed Wyn Ellis Jones, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, eu bod nhw’n cytuno bod staff wedi haeddu diwrnod arall o wyliau ar ôl eu gwaith yn ystod y pandemig.

“Derbyniodd y staff y diwrnod o wyliau ychwanegol y llynedd oherwydd eu gwaith caled dros gyfnod y pandemig,” meddai.

“Rydym yn teimlo y dylai’r un fath ddigwydd eto eleni i ddangos gwerthfawrogiad o ymroddiad ein gweithlu.

“Rydym hefyd yn teimlo bod angen parchu diwrnod cenedlaethol ein nawdd sant yn debyg i’r ffordd mae’r gwledydd Celtaidd eraill yn gwneud.

“Mae’r rhan fwyaf o staff yn gweithio ym mis Mawrth oni bai am y canolfannau masnachol – fel y canolfannau ymwelwyr, Yr Ysgwrn, Plas Tan y Bwlch, ac yn y blaen.

“Mae hynny yn golygu na fydd yna ergyd fasnachol yn ariannol ond mae’r rhan fwyaf o staff llawn amser yr Awdurdod yn gweithio gydol y flwyddyn.”

Ychwanegodd Wyn Ellis Jones y byddai staff sy’n gorfod gweithio ar Ddydd Gŵyl Dewi – a hynny er mwyn osgoi tagfeydd mewn gwasanaethau hanfodol – yn cael cymryd gwyliau ar ddiwrnod arall.

Dim cynlluniau cenedlaethol

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Cyngor Gwynedd anfon llythyr at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw arnyn nhw i roi’r pwerau i Lywodraeth Cymru er mwyn dynodi 1 Mawrth yn Ŵyl y Banc.

Mewn ymateb i hynny, roedd Paul Scully, Gweinidog Busnesau Bach San Steffan, yn pryderu y byddai effaith fawr ar weithwyr sy’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr.

“Tra ein bod ni’n gwerthfawrogi bod pobol Cymru eisiau dathlu eu nawddsant, mae mwy o bobol yn gweithio ar draws y ffin rhwng Lloegr a Chymru nag ar draws y ffin rhwng Lloegr a’r Alban,” meddai.

“Gallai’r integreiddio hwn sydd gam yn nes achosi mwy o anghyfleustra i fusnesau.

“Pe bai gennym wyliau banc ar wahân yn Lloegr a Chymru, mae’r effaith ar weithwyr a busnesau ill dau yn anodd eu darogan.”

Nododd y Gweinidog nad oedd gan y Llywodraeth yn San Steffan “unrhyw gynlluniau presennol” i roi statws arbennig i Ddydd Gŵyl Dewi.