Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o fesurau pellach i helpu pobol gyda’r argyfwng costau byw.

Mae’r pecyn yn cynnwys taliad costau byw o £150 i’w dalu cyn gynted â phosib, a £200 ychwanegol i aelwydydd incwm isel drwy’r Taliad Tanwydd Gaeaf y gaeaf nesaf.

Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Cymru, fod y cymorth yn adlewyrchu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i “greu Cymru decach lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl”.

Roedd cynnig Canghellor y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, ddechrau’r mis yn “annigonol”, meddai Rebecca Evans, ac mae’r pecyn cyllido gwerth £330m yn “sylweddol uwch” na’r cymorth cyfatebol yn Lloegr, meddai.

Mae ymchwil newydd wedi dangos mai Cymru sydd â’r biliau ynni uchaf yn y Deyrnas Unedig, gydag aelwydydd yn gwario £800 y flwyddyn – £60 yn uwch na’r cyfartaledd dros y Deyrnas Unedig.

Yn ôl ymchwil Boiler Central, Ceredigion, Gwynedd, Sir Gaerfyrddin, a Phowys yw’r awdurdodau lleol â’r biliau ynni uchaf yng Nghymru.

“Annigonol”

Bydd y taliad o £150 yn cael ei roi i bob aelwyd sy’n byw mewn eiddo yn y band treth cyngor A-D, yn ogystal â rhai sy’n derbyn Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ymhob band.

Ar ben y rhaglen £152m hon, bydd £25m ychwanegol yn cael ei ddarparu fel cronfa yn ôl disgresiwn i awdurdodau lleol, a fydd yn caniatáu i gynghorau ddefnyddio’u gwybodaeth leol i helpu aelwydydd a allai fod yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.

Wrth i bobol wynebu argyfwng costau byw real iawn, mae angen gweithredu ar frys “mewn ffordd ystyrlon”, meddai Rebecca Evans.

“Roedd cynnig y Canghellor ar ddechrau’r mis yn annigonol ac nid oedd yn dod yn agos i’r hyn sydd ei angen ar bobol,” meddai Rebecca Evans.

“Rydym wedi gallu mynd y filltir nesaf i sicrhau bod gan aelwydydd Cymru fwy o help o ran talu biliau, gwresogi tai a rhoi bwyd ar y bwrdd.

“O’i roi gyda’i gilydd, rydym bron yn dyblu maint y cymorth cyfatebol sy’n cael ei roi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’r rheini sydd ei angen fwyaf, gan adlewyrchu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i greu Cymru decach lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”

Yn gynharach yn ystod y mis, fe wnaeth Rishi Sunak gyhoeddi taliadau o £350 i helpu aelwydydd yn Lloegr gyda biliau ynni o fis Ebrill 2022. Bydd tua £150 o’r gefnogaeth yn dod ar ffurf ad-daliad treth cyngor.

Dywedodd y Trysorlys y byddai llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael cyfanswm o £565m ychwanegol i ddarparu’r un mesur.

Fodd bynnag, wythnos ddiwethaf dywedodd Mark Drakeford nad oes yna “ddim arian ychwanegol i Gymru” gan y Trysorlys er mwyn darparu’r ad-daliadau hyn.

“Mwy o gymorth i fwy o bobol”

Yn 2022-23, bydd dros £100m yn cael ei roi tuag at gryfhau cynlluniau eraill sy’n helpu pobol i fynd i’r afael â chostau byw cynyddol.

Bydd rhagor o arian yn cael ei roi drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol, sy’n helpu pobol gyda chostau hanfodol megis bwyd, nwy, trydan, dillad, neu deithio brys,  a bydd aelwydydd yn gallu hawlio taliad untro o £200 drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.

Mae estyn y cynllun yn golygu y gellir rhedeg y cynllun y gaeaf nesaf ac y gall hefyd gyrraedd mwy o aelwydydd, meddai Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyllid hwn yn “sicrhau bod mwy o bobol yn cael mwy o gymorth” mewn cyfnod anodd, meddai Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, Jane Hutt.

“Wrth i filiau gynyddu a phrisiau godi ac am nad yw cyflogau yn mynd mor bell ag arfer y dyddiau hyn, rydym yn gwybod bod angen help ar bobl,” meddai Jane Hutt.

“Dyma pam rydym wedi cynnull Uwch-gynhadledd Costau Byw ddydd Iau 17 Chwefror, lle bydd dros gant o gyfranogwyr o ystod eang o bartneriaid cymdeithasol a sefydliadau’r trydydd sector ledled Cymru yn trafod yr argyfwng a’r camau gweithredu rhagweithiol y gallwn eu cymryd i helpu pobl ar draws Cymru.

“Mae mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yn parhau i fod yn flaenoriaeth hanfodol i’r Llywodraeth hon a byddwn yn dal i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i ni.”

“Defnydd da”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ei fod yn “falch o weld arian newydd sydd wedi dod gan Lywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn cael ei rhoi at ddefnydd da gan weinidogion Bae Caerdydd”.

“Gyda phrisiau ynni’n cynyddu’n fyd-eang, dw i’n falch o weld gweithredu ar y mater hwn er mwyn helpu teuluoedd i ymdopi â materion costau byw sydd wedi codi yn sgil y pandemig,” meddai Andrew RT Davies.

“Ond mae hi’n siomedig bod Llafur methu stopio’u hunain rhag ymosod ar weinidogion San Steffan sydd wedi arwain y ffordd wrth ddod o hyd i ddatrysiad i hyn.”

“Nid y ffordd orau”

Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams AoS, wedi croesawu’r cyllid ychwanegol, ond nid rhoi taliad o £150 i’r rhan fwyaf o aelwydydd yw’r “ffordd orau” o’i ddarparu, meddai.

“Mae’n arbennig o dda gweld y bydd mwy o arian yn cael ei ddarparu ar gyfer mwy o bobol mewn angen drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol a thrwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf,” meddai Sioned Williams.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am hyn.

“Fodd bynnag, nid trwy ddull cyffredinol o roi £150 i bob aelwyd ym Mandiau Treth y Cyngor A-D yw’r ffordd orau o sicrhau bod y rhai sydd â’r angen mwyaf, y rhai a fydd yn wynebu’r dewis rhwng gwresogi a bwyta, yn cael y cymorth mwyaf.”

Ben Lake: tegwch ariannol i Gymru yn “hollbwysig” wrth ddelio â’r argyfwng costau byw

Gwern ab Arwel

Mae’n debyg na fydd cyllideb Cymru yn cynyddu, er i’r Canghellor gyhoeddi £175m o arian ‘ychwanegol’ i leihau biliau treth y cyngor