Fe ddefnyddiodd Aled Roberts bob dawn oedd ganddo i ymladd dros yr iaith, meddai Owen Evans, prif arolygydd Estyn.

Wrth roi teyrnged i Gomisiynydd y Gymraeg, dywedodd Owen Evans ei fod wedi defnyddio ei angerdd dros yr iaith yn ei rôl fel Comisiynydd, fel Aelod Cynulliad dros y Democratiaid Rhyddfrydol, ac fel cynghorydd ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Bu farw Aled Roberts ddydd Sul (13 Chwefror) yn 59 oed, ac mae gwleidyddion o bob plaid wedi bod yn rhoi teyrngedau i “ryddfrydwr ymroddedig”.

Daeth Aled Roberts, a gafodd ei eni a’i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, yn Gomisiynydd yr Iaith ym mis Ebrill 2019, a bu’n gweithio fel cyfreithiwr yn ardaloedd Wrecsam, Rhuthun, a’r Wyddgrug am flynyddoedd lawer.

“Roeddwn i’n adnabod Aled ers blynyddoedd maith, a be sydd wastad yn taro ti yw gymaint o angerdd oedd gyda fe dros yr iaith a hefyd dros ei gynefin,” meddai Owen Evans wrth golwg360.

“Yn ei rôl yn y Cynulliad, yn ei rôl fel Arweinydd y Cyngor, yn ei rôl fel Comisiynydd, mae fe wedi cyflawni gymaint i geisio sicrhau bod yr iaith ar draws Cymru’n cael ei defnyddio, yn ogystal â bod y safonau yna a bod pobol yn gallu defnyddio’r iaith mewn perthynas a gweithgaredd dydd i ddydd.

“Yr angerdd yna dros gael pobol i ddefnyddio’r iaith oedd y peth pwysicaf i Aled bob tro.

“Mae pobol, efallai, yn anghofio faint o waith wnaeth Aled ar ran y Llywodraeth i weithio gyda’i gefndir ef, sef yr awdurdodau lleol, i gryfhau cynlluniau awdurdodau lleol ar draws Cymru i’r iaith Gymraeg.

“Felly, fel Comisiynydd, fel Aelod Cynulliad, fel cyn-Arweinydd yr awdurdod lleol, defnyddiodd e bob dawn oedd ganddo fe i ymladd dros yr iaith, ac i sicrhau bod pob cynllun posib yn ei le i sicrhau bod pobol yn gallu defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.”

“Roedd e’n foi ffein iawn hefyd, roedd e’n anodd iawn, iawn ffeindio unrhyw un oedd ddim yn licio Aled.

“Roedd e’n foi efo gwen, jôc, stori. Roedd e jyst yn gallu gwneud i bawb deimlo’n esmwyth yn ei gwmni fe.

“Dyna ran o’i gryfder e hefyd, yn ogystal â bod yn ddyn hynod alluog, roedd gyda fe ddawn i wneud i bobol deimlo’n gyfforddus yn ei gwmni fe.”

Teyrngedau i Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg a “rhyddfrydwr ymroddedig”

“Fel hyrwyddwr diflino dros warchod a hybu’r Gymraeg, fe wnaeth e ragori yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg,” medd Jane Dodds

Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, wedi marw yn 59 oed

“Roedd Aled yn gymeriad hoffus â dawn anghyffredin i ddod â phobol at ei gilydd”