Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio mai “realiti newydd” ac nid “eithriadau” yw llifogydd difrifol.

Os nad yw llifogydd wedi effeithio ar ardal yn y gorffennol, dydy hynny ddim yn golygu na fydd hynny’n digwydd yn y dyfodol, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru wrth nodi dwy flynedd ers dechrau llifogydd Chwefror 2020.

Arweiniodd stormydd Ciara, Dennis a Jorge at y glawiad a’r lefelau afonydd uchaf welodd Cymru erioed bryd hynny, a rhai o’r llifogydd mwyaf “arwyddocaol a dinistriol ers y 1970au”.

Cafodd 3,130 o adeiladau eu heffeithio drwy Gymru yn 2020, ac mae’r stormydd hyn yn rhybudd amlwg y bydd llifogydd difrifol yn realiti i gymunedau Cymru yn y dyfodol, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r angen i weithredu nawr er mwyn paratoi ar gyfer effeithiau’r hinsawdd yn bwysicach nag erioed, meddai, ac mae Plaid Cymru yn galw am sefydlu Fforwm Llifogydd Cymru i nodi dwy flynedd ers i Storm Dennis daro Cymru.

‘Trychineb personol’

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, fod angen “gwneud cymaint mwy” i baratoi.

“Mae llifogydd yn drychineb personol iawn, ac mae ein meddyliau’n parhau i fod gyda’r rhai sy’n dal i adfer ac ailadeiladu,” meddai Clare Pillman.

“Ond wrth i fwy a mwy o gymunedau sy’n cael eu heffeithio gan lifogydd bob blwyddyn gyfrif cost eiddo coll, cartrefi a busnesau sydd wedi’u difetha, ac wrth i bobol fyw gydag ofnau cynyddol am stormydd yn y dyfodol, rydyn ni’n gwybod bod angen gwneud cymaint mwy i baratoi ein hunain i wynebu heriau’r dyfodol.

“Yn sicr, rhoddodd COP26 a’r signalau ‘cod coch’ o adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd ysgogiad o’r newydd i lywodraethau fynd i’r afael â’r mater pwysig hwn.

“Rydym wedi gweld newid yn y ffordd y mae chwaraewyr allweddol yn meddwl am yr hinsawdd a’i effeithiau yn nes at adref.

“Mae’r ffocws canolog a roddir ar newid yn yr hinsawdd yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, a’r pwyslais a roddir ar liniaru perygl llifogydd yn y dyfodol yn y Cytundeb Cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru i gyd i’w groesawu.

“Ond er bod cynnydd wedi’i wneud, mae’r broblem hinsawdd hefyd wedi cyflymu.

“Dyna pam mae angen i’n ffordd o feddwl a’n camau gweithredu i helpu i liniaru ac addasu i’w effeithiau fynd ymhellach ac yn gyflymach os ydym am sicrhau’r canlyniadau gwell o ran perygl llifogydd sydd eu hangen arnom ar gyfer pobol Cymru.”

Fforwm Llifogydd Cymru

Mae’r wythnos hon yn nodi dwy flynedd ers i gymunedau gael eu difrodi gan lifogydd helaeth o ganlyniad i Storm Dennis, a bu Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, yn cefnogi cymuned Pontypridd wedi’r llifogydd.

Ers hynny, mae hi wedi arwain ymgyrch yn galw am ymchwiliad annibynnol i’r llifogydd.

Cafodd tua 1,498 o gartrefi a busnesau yn Rhondda Cynon Taf eu taro, ac “am y ddwy flynedd diwethaf mae cymunedau a busnesau wedi byw mewn ofn, gan baratoi am y gwaethaf pob tro mae’n glawio”, yn ôl Heledd Fychan.

“Er fy mod yn croesawu cyhoeddi rhai o’r adroddiadau, nid yw mwyafrif y trigolion yn credu bod yr adroddiadau’n ddigonol. Mae yna ormod o gwestiynau dal heb eu hateb,” meddai.

“Dywedwyd wrthyf dro ar ôl tro gan gynrychiolwyr y Blaid Lafur yn lleol y byddai ymchwiliad annibynnol yn cymryd gormod o amser. Fodd bynnag, ddwy flynedd yn ddiweddarach, dydyn ni dal heb gael atebion am beth ddigwyddodd a pham, felly sut gallwn gynllunio i atal llifogydd yn y dyfodol?

“Nid yw preswylwyr yn teimlo’n hyderus y bydd eu cartrefi a’u busnesau yn ddiogel pe bai digwyddiad tebyg yn digwydd yn y dyfodol.”

Mae Heledd Fychan wedi galw am sefydlu Fforwm Llifogydd yng Nghymru, i ymgymryd â rôl debyg i Fforwm Llifogydd yr Alban.

Ariennir y Fforwm gan lywodraeth yr Alban, a’i dasg yw gweithio gyda chymunedau sydd mewn perygl o lifogydd i ddatblygu grwpiau gweithredu llifogydd, yn ogystal â darparu cymorth ar unwaith pan fydd unigolion a chymunedau’n profi llifogydd.

“Byddai Fforwm Llifogydd Cymru yn llais i gymunedau mewn perygl, gan ddarparu cefnogaeth ymarferol yn ogystal ag eirioli ar eu rhan,” meddai Heledd Fychan.

“Ochr yn ochr ag adolygiad i lifogydd 2020, a sicrhawyd fel rhan o’r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, byddai’n rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i gymunedau sy’n parhau i ddioddef trawma yn dilyn llifogydd 2020.”

Adroddiad llifogydd y Rhondda “yn codi mwy o gwestiynau nag atebion”

“Angen ymchwiliad cyhoeddus tryloyw a diduedd i roi hyder i drigolion Pentre, a thrigolion yr holl gymunedau a gafodd lifogydd”