Bydd gofyn i bob pysgotwr masnachol yng Nghymru ffitio system fonitro benodol ar eu cychod, yn dilyn newid yn y gyfraith.

Eisoes, roedd yn rhaid i gychod mwy na 12 metr gynnwys y System Fonitro Cychod, ond yn dilyn ymgynghoriad, bydd yn rhaid nawr i bob cwch yng Nghymru sydd o dan y maint hwn – dros 350 ohonyn nhw i gyd – osod y cyfarpar.

Cymru yw’r cyntaf o wledydd y Deyrnas Unedig i weithredu’r gyfraith hon, a fydd yn effeithio ar 97% o gychod sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru.

Y bwriad yw tracio gwybodaeth, gan gynnwys lleoliad, amser a chyflymder, er mwyn cael mwy o ddealltwriaeth ynglŷn â gweithgaredd pysgota oddi ar arfordir Cymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd hyn yn ei dro yn gwella pysgodfeydd a’r amgylchedd morol, ac yn sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu hecsbloetio.

Newid yn y gyfraith

Ers Rhagfyr 2020, mae’n debyg bod 98% o’r cychod sydd o dan 12 metr eisoes wedi gallu manteisio ar gyllid Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop i osod y system fonitro am ddim.

Ond o heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 15), bydd y cynllun hwnnw yn dod i ben ac fe fydd yn rhaid i bysgotwyr dalu am yr offer eu hunain.

Dyletswydd perchnogion y cychod yw prynu’r cyfarpar, ac mae’r gyfraith yn gofyn bod y gwaith gosod yn cael ei wneud gan beirianwyr cymwys.

Er bod llawer o gychod wedi gosod y system eisoes, doedd cychod o dan 12 metr ddim yn cael eu monitro cyn y newid yn y gyfraith heddiw.

System yn ‘hanfodol’

Mae Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, yn falch mai Cymru oedd y wlad gyntaf o’r Deyrnas Unedig i orfodi’r gyfraith hon.

“Rydyn ni am sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant pysgota cynaliadwy a llewyrchus ac mae’r ddyfais yn hanfodol i allu rheoli pysgodfeydd ac amgylcheddol y môr yn effeithiol,” meddai.

“Roedd rhoi’r system ar gyfer cofnodi dalfeydd cychod o dan 10m ar waith yn 2020 yn golygu bod gennym wybodaeth well am yr hyn sy’n cael ei ddal ac o gyfuno hynny â’r System Fonitro Cychod, bydd gennym ddarlun llawnach o bysgota yng Nghymru a ble mae’n digwydd.

“Bydd yn rhoi tystiolaeth hefyd i’r diwydiant o darddiad dalfeydd ac am ardaloedd pysgota a gellir defnyddio hynny i ddatrys anghydfodau â defnyddwyr eraill y môr.

“Rydym wedi gweithio’n glos â’r diwydiant ac wedi cynnig cyllid sylweddol trwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop i helpu i baratoi pysgotwyr ar gyfer y gofyn newydd hwn.”