Mae un a fu yn rhan o brotest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar Bont Trefechan yn 1963 wedi dweud wrth golwg360 nad oedd hi wedi sylwi ar fawredd y digwyddiad ar y pryd.
Dim ond fore trannoeth y gwnaeth yr ymgyrchwyr sylwi ar bwysigrwydd yr hyn oedd wedi digwydd, meddai Megan Tudur, wedi iddyn nhw weld yr holl gyhoeddusrwydd yn y Wasg.
Roedd darlith Tynged yr Iaith, a gafodd ei thraddodi gan Saunders Lewis ar y radio 60 mlynedd i heddiw (13 Chwefror 1962), yn “ddylanwad mawr” ar y brotest, yn ôl Megan Tudur.
Syniad ei gŵr, Gwilym Tudur, oedd trio cau Pont Trefechan.
Y bwriad gwreiddiol y diwrnod hwnnw oedd torri unrhyw gyfraith er mwyn cael gwysion gan fod gwŷs i fynd i’r llys yn Saesneg ar y pryd. Roedd y protestwyr yn torri eu boliau eisiau’r llwyfan yn y llys i ddadlau o blaid cael gwŷs yn Gymraeg.
Y gyfraith a benderfynwyd ei thorri oedd honno sy’n atal pobol rhag rhoi posteri ar adeiladau cyhoeddus, ac aeth cannoedd o bobol ati i wneud hynny yn Aberystwyth.
“Fe wnaethon ni gwrdd gyntaf yn yr Home Cafe yn Aberystwyth, y bwriad oedd cael gwŷs. Yr ymgyrch oedd cael gwŷs yn Gymraeg. Protestio bod dogfennau ddim i’w cael yn y Gymraeg ar y pryd,” meddai Megan Tudur.
“Mi aethpwyd ati i sticio posteri ar y Swyddfa Bost ac ar swyddfa’r heddlu, ond doedd yr heddlu ddim yn cymryd dim sylw.”
Wedi i’r heddlu anwybyddu’r weithred, fe aeth y protestwyr yn ôl i’r caffi, ac aeth hi’n ddadl dros roi’r gorau iddi am y diwrnod ai peidio.
“Aethon ni’n ôl i’r Home Cafe a thrio penderfynu beth i’w wneud, a’r rhan fwyaf yn dweud: ‘Rydyn ni wedi trio’n gorau, dydy e ddim yn mynd i ddigwydd heddiw, does neb yn mynd i gael eu harestio na gwŷs. Well i ni fynd adref’.
“Fy ngŵr i, Gwilym, ddywedodd: ‘Na, dydyn ni ddim yn mynd adref, rhaid i ni wneud rhywbeth’. Roedd yna ddegau wedi dod yno. ‘Mae syniad gyda fi’, meddai ef, ‘awn ni i drio cau Pont Trefechan. Bydd rhaid iddyn nhw arestio ni’.
“Pont Trefechan oedd yr unig ffordd i mewn i’r dref ar y pryd, mi bleidleisiodd y rhan fwyaf i wneud hynny.
“Doedd yr arweinwyr ddim yn fodlon, John Davies Bwlchllan a Teddy Millward. Roedd e’n weithred rhy eithafol, ond fe bleidleisiwyd a lawr â ni i’r bont.
“Eistedd yno a disgwyl bod yr heddlu’n mynd i ddod i’n symud ni, a chael ein harestio, ond ddaethon nhw ddim wrth gwrs.
“Roedden nhw’n benderfynol o beidio rhoi sylw i ymgyrch y Gymdeithas ar y pryd.
“Dw i’n cofio eistedd ar y bont a bod yn ofnus iawn oherwydd bod y ceir yn nesáu atom ni o hyd.
“Fuon ni am dipyn, a bechgyn lleol yn gweiddi arnom ni a gyrwyr ceir yn trio cael ni i symud wrth ddod yn nes ac yn nes.
“Roedd dychryn mawr arna i achos roedd Gwilym, sy’n ŵr i fi nawr, yn eistedd tu blaen i fi a char yn dod ato fe ac roedd e’n gwrthod symud.”
Chafodd neb eu harestio yn dilyn y brotest chwaith, ond fe wnaeth cyhoeddusrwydd yn y Wasg Saesneg ddenu sylw at y mater.
“Gwneud pwynt”
Wrth edrych yn ôl, mae Megan Tudur yn sylweddoli ar bwysigrwydd y ffaith ei bod hi wedi bod yn rhan o’r brotest gyntaf dros yr iaith.
Ond wrth eistedd ar Bont Trefechan, doedd hi’n sicr ddim yn sylwi ei bod hi’n rhan o rywbeth fyddai mor amlwg a phwysig yn hanes y Gymraeg.
Ddaeth hynny i’r amlwg fore trannoeth wrth i bapurau’r wasg Saesneg gyfeirio atyn nhw fel ‘Welsh law breakers‘.
“Fe wnaethon ni sylwi bod yna ryw bwynt wedi cael ei wneud, ein bod ni’n trio cael sylw i’r ffaith bod dim byd swyddogol yn y Gymraeg,” meddai Megan Tudur.
“Mae e’n bwysig meddwl eich bod chi wedi bod yn rhan o’r brotest gyntaf dros yr iaith, bod yna ddim byd wedi bod cynt.”
Arweiniodd darlith Tynged yr Iaith at sefydlu Cymdeithas yr Iaith yn ystod haf 1962, ac roedd geiriau Saunders Lewis yn ddylanwad mawr ar weithredoedd a phrotestiadau cynnar y Gymdeithas, meddai Megan Tudur.
“Fe ddywedodd Saunders fod yr iaith yn mynd i ddiflannu yn fuan… ‘Trwy ddulliau chwyldro yn unig y bydd achub yr iaith’, meddai fe.
“Roedd hynny ym mis Chwefror, wedyn amser hynny roedd yna Ysgol Haf Plaid Cymru cyn yr Eisteddfod, ac roedd e ym Mhontarddulais.
“Sylweddolwyd na fyddai dim modd y byddai Plaid Cymru’n ymgymryd â’r ymgyrch tor-cyfraith, yn fan hynny sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith a phenderfynu mai’r bwriad o hynny ymlaen fyddai tor-cyfraith.”