Mae prosiect newydd i gasglu ymadroddion a geiriau ‘babi’ Cymraeg yn gyfle i “roi hyder i rieni sy’n gweld babi newydd fel cyfle i ddechrau siarad Cymraeg”.

Fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r Mudiad Meithrin, mae gofyn i bobol o bob oed rannu geiriau arbennig maen nhw’n eu defnyddio wrth ‘siarad babi.’

Mae elfennau o ‘siarad babi’, neu parentese, yn cynnwys siarad yn arafach, defnyddio tôn llais uwch, a geirfa ac ystumiau na fyddai’n cael eu defnyddio â phlant hŷn nac oedolion, megis ‘bow-wow’, ‘beibeis’, neu ‘ych-a-pych’.

Y gobaith yw y bydd modd creu adnoddau i ddatblygu sgiliau a hyder rhieni a gofalwyr sy’n dysgu Cymraeg, yn ogystal ag arweinwyr grwpiau megis Cymraeg i Blant, Clwb Cwtsh, a chylchoedd Ti a Fi, wrth siarad Cymraeg â babis.

“Mae’r prosiect yma – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg – yn gyfle gwych i gasglu ynghyd yr holl eiriau babi Cymraeg sy’n cael eu defnyddio gan deuluoedd ledled Cymru a thu hwnt,” meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sydd â chyfrifoldeb dros y cynllun.

“Byddwn yn rhannu’r eirfa arbennig honno gyda dysgwyr sy’n rhieni neu’n ofalwyr yn ogystal â gweithwyr yn y sector Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Cymraeg.”

‘Hyder i rieni’

Mae’r cynllun yn awyddus i gasglu cynifer o eiriau ac ymadroddiad â phosib, fel bod ganddyn nhw ddigon o ddeunydd i weithio tuag at greu’r adnoddau, meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithedwr y Mudiad Meithrin.

“Mae’r iaith mae rhieni newydd yn siarad gyda babi yn aml yn seiliedig ar reddf neu’r hyn sy’n teimlo’n iawn,” meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies.

“Mae’n bwysig rhoi hyder i rieni sydd eisiau siarad Cymraeg gyda’u babis ac sy’n gweld babi newydd fel cyfle i ddechrau siarad Cymraeg.

“Hoffem bwysleisio nad oes ffasiwn beth â gair sy’n rhy wirion i’w gynnig – mi ydan ni eisiau eu clywed i gyd!

“O’r geiriau fyddech chi yn defnyddio amser bwyd ac amser bath i eirfa amser chwarae ac amser gwely.”

‘Torri tir newydd’

Mae gan Adran Gwyddorau Addysg Prifysgol Bangor ddiddordeb yn y cynllun, ac mae’r Athro Enlli Thomas, sy’n arbenigwr ar gaffael iaith plant bach, wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ers y dechrau.

“Mae hwn yn gynllun diddorol iawn sy’n torri tir newydd yma yng Nghymru – dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw un geisio cael rhestr o’r fath at ei gilydd,” meddai.

“Bydd yn ddiddorol gweld yr amrywiadau iaith o deulu i deulu ac o ardal i ardal, a’r effaith bosibl ar drosglwyddo iaith o fewn teuluoedd.”

Mae mwy o fanylion am sut y gallwch gyfrannu geiriau ar gyfryngau cymdeithasol a gwefan Mudiad Meithrin.