Mae gweithiwr gofal cartref o Gaerdydd wedi cael ei thynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd.

Cafodd Emma Fagg ei hatal o’i rôl gofal yng Ngorffennaf 2020 oherwydd pryderon diogelu difrifol.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i’r casgliad fod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd.

Doedd Emma Fagg ddim yn bresennol ar gyfer y gwrandawiad a barodd ddiwrnod ac a gafodd ei gynnal dros Zoom yr wythnos ddiwethaf.

Fodd bynnag, mae ganddi’r hawl i apelio i’r Tribiwnlys Safonau Gofal o fewn 28 diwrnod.

Penderfynodd y panel dynnu Ms Fagg o’r Gofrestr, gan ddweud mai “[dyma’r] unig ganlyniad sy’n cyrraedd y gofynion i ddiogelu aelodau o’r cyhoedd a’r angen i ddiogelu hyder y cyhoedd”.

“Mae Ms Fagg wedi dangos diffyg dirnadaeth o’i hymddygiad,” meddai.

“Dydy hi ddim wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei hymddygiad ac nid ydym yn hyderus bod ei hymddygiad yn annhebygol iawn o gael ei ailadrodd.

“Nid ydym wedi derbyn unrhyw dystiolaeth sy’n awgrymu bod [Ms Fagg] wedi cymryd unrhyw gamau i ddelio â’i hymddygiad.”