Mae Gŵyl Ffilm LHDT+ Iris wedi creu pecyn addysgiadol er mwyn trafod rhywedd, rhywioldeb a chynhwysiant traws gyda phobol ifanc.

Mae’r pecyn o bum ffilm fer yn mynd i’r afael â materion traws a chynhwysiant yn gasgliad o Archif Gwobr Iris, sef ffilmiau poblogaidd sydd wedi cael eu dangos yn yr ŵyl.

Gan nad oedd hi’n bosib i Ŵyl Iris fynd i ysgolion yn ystod y pandemig, penderfynodd yr ŵyl greu pecyn addysgiadol fel bod ysgolion yn gallu elwa arno.

Mae pob adran yn y pecyn yn cynnwys disgrifiad o sut mae’r ffilm yn dweud ei stori, ac yn awgrymu gweithgareddau megis ‘darllen’ y ffilm, ysgrifennu, creu ffilm, a defnyddio’r ffilm i drafod rhywedd, rhywioldeb, a chynhwysiant traws.

‘Ei angen ers tro byd’

Bydd y pecyn ar gael i ysgolion dros y Deyrnas Unedig, meddai Berwyn Rowlands, cyfarwyddwr Gŵyl Ffilm Iris, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.

“Rydyn ni wedi teimlo bod hwn yn rhywbeth sydd ei angen ers tro byd, adnodd fyddai’n caniatáu i addysgwyr a phobol ifanc elwa llawer mwy drwy wylio’r ffilmiau byrion rydyn ni wedi bod yn eu darparu i ysgolion dros y blynyddoedd,” meddai.

“Mae’r cyllid gan Ffilm Cymru wedi caniatau i ni weithio gyda Tom Barrance, sydd yn addysgwr Ffilm uchel ei barch gyda dros 30 mlynedd o brofiad o weithio mewn ysgolion a chymunedau, yn darparu hyfforddiant, a chreu adnoddau ar gyfer creu ffilmiau, Astudiaethau’r Cyfryngau, ac Astudiaethau Ffilm.

“Rydyn ni wrth ein boddau’n cadarnhau ein bod ni wedi sicrhau cefnogaeth Into Film er mwyn gwneud yn siŵr bod y pecyn addysg ar gael i ysgolion dros y Deyrnas Unedig.

“Mae Into Film yn ymgysylltu â thros hanner ysgolion y Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n cynnig cefnogaeth addysgol am ddim i athrawon, gan hybu defnyddio ffilm fel arf bwerus ar gyfer dysgu.

“Wrth i ni barhau i ddathlu Mis Hanes LHDT+ (mis Chwefror) dw i wrth fy modd bod y pecyn hwn, sydd wedi’i gynhyrchu a’i ariannu yng Nghymru, ar gael dros y Deyrnas Unedig, ac y bydd ar gael drwy gydol y flwyddyn.”