Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi y bydd newidiadau’n cael eu gwneud i gymwysterau Cymraeg er mwyn helpu mwy o ddysgwyr i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
Mae’r rheoleiddiwr wedi bod yn adolygu’r cymwysterau sydd ar gael ar lefel TGAU i ddysgwyr sy’n astudio Cymraeg.
Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, mae’r rheoleiddiwr wedi argymell triawd o gymwysterau a fydd ar gael ar gyfer 2025.
Mae’r newidiadau yn cynnwys:
- Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn cael eu cyfuno’n un TGAU ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog Cymraeg a Saesneg.
- TGAU Cymraeg Ail Iaith yn dod i ben, a bydd TGAU Cymraeg newydd ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg.
- Cymhwyster ychwanegol newydd i ddisgyblion mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg sy’n barod i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
“Bydd y set newydd hon o gymwysterau yn annog pob dysgwr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus, waeth pa fath o ysgol y maent yn ei mynychu, a bydd yn helpu i gyflawni nodau strategaeth iaith ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru,” meddai Emyr George, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau gyda chorff Cymwysterau Cymru.
“Yn y pen draw, rydym am weld un cymhwyster Cymraeg cyffredinol ar gyfer pob dysgwr ym mhob lleoliad, ond nid ydym yno eto oherwydd bod gan ddysgwyr lefelau amrywiol o gysylltiad â’r iaith.
“Bydd y cymwysterau’n rhoi cyfle teg a chyfartal i bob dysgwr gyflawni yn y Gymraeg.
“Maen nhw’n adlewyrchu’r gwahanol setiau o ddisgwyliadau ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg, fel yr amlinellir yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, tra hefyd yn caniatáu i’r dysgwyr hynny mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sy’n barod i symud ymlaen ymhellach ac yn gyflymach ar hyd y continwwm Cymraeg.
“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gydag athrawon, arbenigwyr pwnc a Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf i sicrhau bod y cynnig hwn yn diwallu anghenion dysgwyr fel bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu dysgu, eu gwaith a’u bywydau bob dydd.”
‘Cefnogi pob dysgwr’
“Dylai cymwysterau Cymraeg gefnogi pob dysgwr ar eu taith Gymraeg a darparu llwybr tuag at nod cyffredin,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.
“Rwy’n croesawu’r cymwysterau Cymraeg newydd, sy’n cael gwared ar y cysyniad o’r Gymraeg fel ail iaith ac a fydd yn gwobrwyo gwaith caled y rhai sy’n astudio’r Gymraeg ar draws sbectrwm cyfan profiad a gallu yn y Gymraeg.
“Rydw i wedi bod yn glir bod yn rhaid i newidiadau i gymwysterau fod yn radical ac yn uchelgeisiol a chefnogi’r Cwricwlwm newydd, wrth inni symud at gontinwwm ar gyfer dysgu Cymraeg, o’r rhai sydd ag ychydig neu ddim profiad iaith, i’r rhai sy’n gweithio tuag at hyfedredd.”
‘Ail-frandio’ Cymraeg ail iaith yn ‘methu cenhedlaeth arall o blant’
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i’r cynlluniau ar gyfer Cymraeg ail iaith, gan ddweud eu bod yn “methu cenhedlaeth arall o blant” drwy wneud dim byd mwy nag “ail-frandio”.
Maen nhw’n dweud nad yw’r corff wedi egluro sut fydd y TGAU Cymraeg newydd yn wahanol i Gymraeg ail iaith, ac eithrio’r enw newydd.
Maen nhw hefyd yn beirniadu’r diffyg amserlen ar gyfer cyflwyno’r newidiadau, wrth i’r corff ddweud y bydd y newidiadau yn eu lle yn 2025.
“Mae Cymwysterau Cymru yn cydnabod erbyn hyn mai un cymhwyster Cymraeg yw’r ffordd ymlaen, ac yn dweud mai’r nod fydd datblygu’r cymhwyster hwnnw yn y dyfodol,” meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Ond fydd y camau newydd yma ddim mewn lle nes 2025 a does dim cynllun nac amserlen ar gyfer cyflwyno un cymhwyster.
“Gan fod pawb erbyn hyn yn derbyn yr achos addysgol dros gyflwyno un cymhwyster, sut allwn ni gyfiawnhau parhau i roi nenfwd ar gyrhaeddiad mwyafrif o ddisgyblion, a’u hamddifadu o’r Gymraeg?”
‘Un iaith i bawb’
Yn 2013, roedd adolygiad o Gymraeg ail iaith gan arbenigwyr a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn argymell dileu Cymraeg ail iaith a chreu un continwwm dysgu ac asesu fel mater o frys.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod nhw “wedi cyhoeddi a rhannu cynigion a luniwyd gan arbenigwyr ar sut i gyflwyno un cymhwyster Cymraeg”, gan gynnwys bod pob disgybl yn sefyll papur arholiad cyffredinol a naill ai bapur arholiad Cymraeg Uwch neu bapur arholiad Cymraeg safonol.
Byddai gorgyffwrdd rhwng y ddau bapur yma a chyfle felly i ddisgyblion uwch eu gallu, ond sy’n sefyll arholiad ‘Cymraeg safonol,’ gyrraedd e.e. gradd B ‘Cymraeg Uwch’ a chael cydnabyddiaeth am hynny, yn ôl y Gymdeithas.
“Trwy ail-frandio Cymraeg ail iaith yn lle datblygu un cymhwyster Cymraeg ar gyfer holl bobl ifanc Cymru, mae Cymwysterau Cymru a’r Llywodraeth wedi methu cenhedlaeth arall o blant,” meddai Toni Schiavone wedyn.
“Dyma barhau â threfn system addysg sy’n amddifadu 80% o’n pobol ifanc o’r Gymraeg.”
“Bron i ddegawd ers i adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ddweud bod angen cael gwared ar Gymraeg ail iaith fel mater o frys, mae’n gywilyddus ein bod ni yn y sefyllfa yma.
“Mae strategaeth y Llywodraeth ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr yn dibynnu ar sicrhau bod hanner y disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gadael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg.
“Ond trwy barhau â chymwysterau ar wahân, nid oes cymhelliant ar ysgolion i wella’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu.
“Yr unig ffordd i godi disgwyliadau addysgol a gwella cyrhaeddiad pob disgybl ydy cyflwyno un cymhwyster.
“Oni bai ein bod ni’n gwneud hynny, ni fyddwn yn cyrraedd y miliwn a bydd mwyafrif o bobol ifanc Cymru yn parhau i gael eu hamddifadu o’r Gymraeg.”