Ddechrau’r wythnos fe ddaeth y newyddion trist fod Aled Roberts wedi marw yn 59 oed.

Roedd yn Gomisiynydd y Gymraeg ac wedi bod yn Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru cyn hynny, ac yn Arweinydd Cyngor Sirol Wrecsam.

Cafodd ei eni a’i fagu ym mhentref Rhosllannerchrugog ger Wrecsam, a bu yn gyfreithiwr cyn camu i’r byd gwleidyddol.

Un cyfaill a chydweithiwr o’i ddyddiau yn y llysoedd yw’r Barnwr Nic Parri.