Ynghanol helyntion yr Wcrain, dydi’r blogwyr, o leia’, ddim wedi anghofio’r partïon. Mae’r sylw wedi troi at ddyfalu be’n union fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, yn ei roi ar holiadur Heddlu Llundain. Ond mae John Dixon yn amau’r broses ei hun …
“Maen nhw [yr Heddlu] yn honni fod yr holiadur yn cyfateb i gyfweliad gan yr heddlu ac y bydd yr atebion ‘yn cael eu trin fel datganiadau ar lw’. Tybed sut y bydd yr heddlu’n ymateb yn y dyfodol os ydi dihiryn dan amheuaeth yn mynnu’r hawl i ateb holiadur yn ei gartref ei hun a chael wythnos i baratoi’r atebion a thrafod gydag eraill sydd dan amheuaeth, yn hytrach na gorfod wynebu cyfweliad gyda swyddog heddlu yn yr orsaf. A dweud y gwir, does dim tybed o gwbl – dw i’n weddol siŵr fy mod i’n gwybod beth fyddai’r ymateb. Mae’n edrych fel achos arall o ‘un rheol i ni…’.” (borthlas.blogspot.com)
Ar thenational.wales, does gan Kirsty Strickland ddim mwy o amynedd efo’r straeon mai’r amddiffyniad fydd fod Boris Johnson yn ‘byw uwchben y siop’ …
“Mae cymheiriaid Boris Johnson wedi dadlau ers amser bod y Prif Weinidog mewn sefyllfa unigryw yn ystod y clo oherwydd fod Downing Street yn gartref ac yn swyddfa. Roedd yn gweithio o gartre’. Dim ond i bobl oedd wedi eu rhewi’n gryogenig yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’ y mae hynna’n syniad newydd.
Fel pob esgus o’r blaen, mae’n eich gwylltio – mae mor gwbl wirion ac yn llawn anghysonderau rhesymegol fel na allwch deimlo dim ond dicter wrth ei glywed… Erbyn hyn, fe wyddon ni nad yw Boris Johnson yn bwriadu gadael yn dawel.”
Ond, efallai ei fod o, meddai Huw Prys Jones wrth ymateb i flog ar nation.cymru. A’r prawf? Fod Guto Harri wedi ymuno â’i dîm …
“…mae’n gwybod na fydd sawl rhan o’r blaid [Geidwadol] yn ymddiried ynddo fo ac mi fydd wedi sylweddoli hefyd na all Cyfarwyddwr Cyfathrebu greu gwyrthiau… esboniad mwy credadwy tros ei benodi yw mai ei swyddogaeth go-iawn yw helpu sicrhau y bydd ymddiswyddiad Boris Johnson a’i ymadawiad mor urddasol â phosib dan yr amgylchiadau. A fod y Prif Weinidog wedi troi at ffrind y gall ymddiried ynddo i warchod y mymryn sydd ar ôl o’i enw da.”
Ond, daliwch eich dŵr. Os ydech chi’n credu bod problemau yn San Steffan. Dyma ran o faniffesto sydd wedi ei gyhoeddi ar flog carmarthenplanning.blogspot.com wrth i’r brotestwraig Jacqui Thompson geisio sefydlu mudiad newydd i ymgyrchu cyn etholiadau’r cynghorau sir …
“Mae wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd nad yw cynghorwyr etholedig erioed wedi bod mewn gwir reolaeth o faterion y Sir, oherwydd gwahaniaeth barn rhwng y Cynghorwyr, ymlyniad crefyddol wrth athrawiaeth pleidiau gwleidyddol yn hytrach na synnwyr cyffredin… mae gormod o brosiectau balchder wedi eu caniatáu ar anogaeth Prif Weithredwyr… o ganlyniad i ddiffyg clem a diffyg gwybodaeth cynghorwyr etholedig.”