Petula yw enw drama newydd tair iaith sy’n cael ei llwyfannu ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, National Theatre Wales, a chwmni August012.

Mae’n addasiad newydd o waith dramodydd o Ffrainc, Fabrice Melquiot. Cafodd y syniad ei gyflwyno i’r cwmnïau gan y cyfarwyddwr Mathilde Lopez, sydd hefyd yn Ffrances, ac sy’n rhedeg cwmni theatr August012 yng Nghaerdydd. Mae hi wedi cydweithio sawl tro gyda National Theatre Wales a bellach yn Gyfarwyddwr Cyswllt gyda’r cwmni.