Mae cynghorwyr yng Nghaerdydd yn galw am ddiwrnod o wyliau i staff y Cyngor ar Ddydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf.

Daw hyn yn sgil dathliadau Dydd San Padrig ddoe (dydd Iau, Mawrth 17), sydd yn ŵyl y banc yn Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

Dydy hynny ddim yn wir am Fawrth 1 yng Nghymru, er bod galwadau cynyddol ar Lywodraeth San Steffan i wireddu hynny, gan gynnwys deiseb sydd wedi ei llofnodi gan dros 12,000 o bobol.

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd gytuno i roi diwrnod o wyliau i’w gweithlu ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, gyda’r gost o wneud hynny yn £200,000 yn ôl amcangyfrifon.

Fe allai Caerdydd ddilyn, ar ôl i gynghorwyr gefnogi cynnig mewn cyfarfod yr wythnos hon i archwilio’r syniad, yn ogystal â’r effeithiau ar wasanaethau a chyllid.

‘Cyfle delfrydol’

Y Cynghorydd Neil McEvoy wnaeth gyflwyno’r cynnig yn ystod y cyfarfod hwnnw.

Roedd yn cenfigennu ar ôl gweld gorymdaith enfawr i ddathlu Dydd San Padrig ym mhrifddinas Iwerddon, Dulyn.

“Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle delfrydol i ddechrau’r tymor twristiaeth yng Nghymru,” meddai.

“Rydyn ni’n dioddef o ddiffyg parch at draddodiad Cymreig a Chymreictod, yn enwedig yma yng Nghaerdydd. Rydyn ni bron yn ddinasyddion eilradd yn ein gwlad ein hunain.

“Rwy’n ei weld yn rhwystredig ac rwy’n teimlo’n ddigalon fel person a gafodd ei eni yng Nghymru gan wybod fod yr awdurdodau ddim yn cymryd ein cenedligrwydd ni o ddifrif.

“Hoffwn weld y rhai sy’n rhedeg y Cyngor yn magu agwedd sydd yn fwy o blaid Cymru, ac yn rhoi diwrnod i ffwrdd i staff.

“Edrychwch ar yr hyn maen nhw’n ei wneud yn Nulyn gyda Dydd San Padrig, dyna’r esiampl. Dyna ddylen ni fod yn ei wneud.”

Cefnogaeth

Dywed y Cynghorydd Michael Michael ei fod yn cefnogi galwadau i roi’r pwerau i ddynodi gwyliau banc i Lywodraeth Cymru.

Fe gytunodd y dylai’r Cyngor nesaf ar ôl yr etholiad ym mis Mai archwilio’r syniad.

“San Steffan sydd â’r pŵer i ddynodi gŵyl banc,” meddai.

“Gallan nhw roi’r pŵer i’r Senedd neu ei ddatgan trwy gyhoeddiad brenhinol. Fe gefais i fy syfrdanu pan wnes i ddarganfod nad oes ganddyn nhw’r pŵer cyhoeddi brenhinol.

“Does gan y Cyngor ddim y pŵer i ddatgan gŵyl banc. Ond does gen i ddim problem gyda dathliadau.

“Dylai’r weinyddiaeth nesaf gael y cyfle i ddod yn ôl at y Cyngor gyda’r pwerau sydd ganddi, a gofyn i swyddogion ddod yn ôl gydag adroddiad i weld beth allwn ni ei wneud.”