Mae platfform celfyddydol AM a Celfyddydau Anabledd Cymru wedi cyhoeddi partneriaeth newydd er mwyn sbarduno newid yn y diwylliant celfyddydol yng Nghymru.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd y ddau yn cydweithio er mwyn sicrhau mwy o gydraddoldeb, cyfleoedd a dealltwriaeth o fewn y sector.

Yn hanesyddol, dydy artistiaid ag anableddau ac artistiaid byddar heb gael digon o gyfleoedd i rannu a chreu gwaith, meddai AM a Celfyddydau Anabledd Cymru.

Nod y bartneriaeth yw rhannu eu platfformau, a bydd y gwaith yn canolbwyntio ar hyrwyddo gwaith o gyfres Featured Artist Celfyddydau Anabledd Cymru i gynulleidfa ehangach, a chyd-hyrwyddo digwyddiadau a chyfleoedd newydd.

Bydd gan Celfyddydau Anabledd Cymru bresenoldeb ar wefan ac ap AM, a bydd cyfle i’w 400 aelod ymgysylltu â phlatfform AM.

Yn y cyfamser, bydd AM yn hyrwyddo a chynghori ar waith gan artistiaid byddar ac artistiaid ag anableddau, yn ogystal â datblygu agenda gyda Celfyddydau Anabledd Cymru i gynyddu cyfleoedd a gwthio celfyddyd artistiaid ag anableddau ac artistiaid byddar i ganol bywyd celfyddydol Cymru.

Yn sgil y bartneriaeth, bydd aelodau Celfyddydau Anabledd Cymru yn manteisio ar fynediad am ddim at wasanaethau PYST, sef chwaer-sefydliad i AM sy’n dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg.

Bydd cynrychiolwyr o’r ddau sefydliad yn cymryd rôl ymgynghorol ar Fyrddau llywodraethol ei gilydd hefyd.

‘Newid angenrheidiol’

Dywedodd Ruth Fabby, Cyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru: “Mae’r bartneriaeth yma yn hollbwysig i Celfyddydau Anabledd Cymru ac rydym yn falch iawn o weithio yn gyfartal gydag AM.”

Ychwanegodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr AM, ei bod hi’n “fraint gallu gweithio’n agosach gyda Celfyddydau Anabledd Cymru a chael chwarae rôl fechan yn dod â newid angenrheidiol i’r sector a chymdeithas”.