Mae Neuadd Dewi Sant a Chyngor Caerdydd wedi amddiffyn y penderfyniad i groesawu’r digrifwr Jimmy Carr i’r brifddinas ar gyfer ei sioe gomedi nos Lun nesaf (Mawrth 28).

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud bod ei sylwadau am y sipsiwn a’r gymuned deithiol wedi bod yn “annerbyniol”, ac roedd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi bod yn galw arno yn y Senedd i roi pwysau ar Gyngor Caerdydd i ganslo’r sioe.

Perfformiodd Jimmy Carr yn yr un lleoliad fis diwethaf ar ôl gohirio ddwywaith yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig Covid-19, ac fe fydd e’n dychwelyd yno nos Lun gyda’i sioe newydd sbon.

Mewn hysbyseb ar wefan Jimmy Carr, mae ei reolwyr yn dweud bod y “sioe newydd sbon yn cynnwys jôcs am bob math o bethau ofnadwy”.

“Pethau ofnadwy sydd, o bosib, wedi effeithio arnoch chi neu bobol yr ydych cyn eu hadnabod ac yn eu caru, ond dim ond jôcs ydyn nhw – nid y pethau ofnadwy ydyn nhw.

“Mae cael cywirdeb gwleidyddol mewn sioe gomedi fel cael iechyd a diogelwch mewn rodeo.

“Nawr eich bod chi wedi cael eich rhybuddio, prynnwch docyn”.

Y sipsiwn a’r Holocost

Yn ei sioe Netflix His Dark Material, dywedodd Jimmy Carr mai elfen “bositif” oedd yn deillio’r Holocost oedd fod miloedd o sispsiwn wedi’u lladd.

Roedd ei sylwadau ar lwyfan sioe fyw wedi ennyn cryn dipyn o ymateb, a dywedodd y digrifwr ei hun ei fod yn disgwyl cael ei “ganslo” yn sgil y ‘jôc’ honedig.

Roedd Philip Pullman, awdur y gyfrol His Dark Materials a gafodd ei fagu’n faciwi ger Harlech, wedi gofyn iddo newid enw ei sioe yn sgil yr helynt.

Mae golwg360 yn deall nad oedd y deunydd sydd wedi ennyn ymateb chwyrn wedi cael ei ailadrodd pan berfformiodd Jimmy Carr yng Nghaerdydd fis diwethaf, a bod Neuadd Dewi Sant wedi cael sicrwydd na fydd yr un deunydd yn cael ei ailadrodd fel rhan o’i sioe newydd.

“Yn dilyn y sylwadau a wnaed gan Jimmy Carr yn ei sioe Netflix, mae Neuadd Dewi Sant wedi cysylltu â rheolwyr Jimmy Carr,” meddai llefarydd ar ran Neuadd Dewi Sant a Chyngor Caerdydd.

“Er nad oes gennym reolaeth uniongyrchol dros gynnwys artistig, rydym wedi cael sicrwydd nad yw’r sioe y bydd yn ei pherfformio’n ailadrodd y deunydd o sioe Netflix arbennig Mr Carr sydd wedi’i gael yn sarhaus.

“Mae Cyngor Caerdydd a Neuadd Dewi Sant yn deall ac yn rhannu’r sarhad a’r pryderon dwys a gafodd eu hachosi gan sylwadau Jimmy Carr i’r gymuned Romani a theithiol.

“I ddangos ein cefnogaeth i’r gymuned, byddwn yn goleuo esgyll Neuadd Dewi Sant yn lliwiau’r faner Romani ar noson y perfformiad.”

Dywed y llefarydd ymhellach “nad yw’n syml i ganslo” y sioe, gyda phobol eisoes wedi prynu tocynnau ac wedi gwneud trefniadau i deithio ac i aros yng Nghaerdydd ar gyfer y perfformiad.

Ymateb y gymuned

Mae Cwmni Diwylliant a’r Celfyddydau Romani wedi ymateb yn chwyrn i’r penderfyniad i groesawu Jimmy Carr i Gaerdydd unwaith eto.

“Fel ymgynghorydd arbenigol hirdymor i Gwmni Diwylliant a’r Celfyddydau Romani, hoffwn bwysleisio bod Jimmy Carr wedi gwneud datganiadau am yr Holocost Romani (Porrajmos) sy’n ei gwneud hi’n glir y byddai’n well ganddo pe bai ‘Sipsiwn’ yn cael eu dileu oddi ar wyneb y blaned fel cymuned ethnig,” meddai Dr Adrian Marsh wrth golwg360.

“Mae goblygiadau ei ddefnydd o’r term ‘Sipsiwn’ yn ddifrïol (yr ystrydebau arferol o anonestrwydd, gweithio yn groes i fudd pobol ac anffyddiaeth), ac yn anghywir, gan fod y gymunedau a ddioddefodd yn Sinti, Roma, Woonwagenbewoners, Manouche, Gitano, Quinqui, Mercheros ac Ashkali.

“Dydy cymunedau Ewropeaidd ddim, a dydyn nhw ddim wedi defnyddio’r term ‘Sipsiwn’ i sôn amdanyn nhw eu hunain; mae hynny wedi’i gyfyngu i Sipsiwn a Theithwyr yn y byd Saesneg yn unig.

“Mae hi hefyd yn syfrdanol fod Cyngor Dinas Caerdydd yn ystyried galluogi’r sioe i fynd yn ei blaen; pe bai Jimmy Carr wedi dweud yr un peth am bobol Iddewig, neu bobol Ddu, byddai ei sioe wedi cael ei chanslo heb feddwl dwywaith.

“Mae awgrym y Prif Weinidog mai mater i’r Cyngor yw caniatâd i’r sioe fynd yn ei blaen yn Neuadd Dewi Sant, y ganolfan genedlaethol ar gyfer y celfyddydau, diwylliant ac adloniant, yn ffuantus.

“Yn sicr, mae gan Mr Drakeford y grym i roi feto ar y sioe, gan fod Neuadd Dewi Sant yn cael ei hariannu gan y llywodraeth drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

“Mae hi hefyd yn wir, pe bai Jimmy Carr wedi sarhau pobol Gymreig yn ‘hiliol’, fyddai e ddim wedi cael parhau, ond mae’n glir bod barn a theimladau’r cymunedau Romani a Theithiol yn llai pwysig na chymunedau Iddewig, Du neu Gymreig.

“Yn amlwg, mae awgrymiadau bod gwenwyno cannoedd ar filoedd o bobol Romani, eu llofruddio a’u dileu yn Ewrop dan law’r Natsïaid yn ganlyniad da oedd yn deillio o’r Holocost, a gafodd eu gwneud gan rywun sy’n methu llenwi ffurflenni datgan treth yn gywir (er bod ganddo radd Dosbarth Cyntaf o Gaergrawnt), a chyn-bennaeth marchnata Shell, yn dderbyniol i reolwyr Neuadd Dewi Sant.”

Llywodraeth ‘wrth-hiliol’

Wrth barhau i sôn am safiad Llywodraeth Cymru, dywed Dr Adrian Marsh fod “Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn dilyn, drwy ei ‘Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030’ strategaeth i ddileu hiliaeth a gwahaniaethu ar sail hil yn y wlad ymhen wyth mlynedd”.

“Mae galluogi perfformwyr fel Jimmy Carr i chwarae mewn lleoliadau cenedlaethol ond yn annog ‘gwthio’n ôl’ yn erbyn yr uchelgais o hybu cydraddoldeb a gwneud Cymru’n decach i’w holl ddinasyddion,” meddai.

“Dydy James Anthony Patrick Carr [Jimmy Carr] ddim yn hybu Cymru wrth-hiliol (nac unman arall) drwy ei gyfeiriadau at ddinistrio’r ‘Sipsiwn’ 1939-45; sy’n eironig o safbwynt disgynnydd i fewnfudwyr Gwyddelig balch i Loegr y mae ei lwyddiant yn ei gyflawniadau academaidd yn herio’r hiliaeth a gwahaniaethu ffiaidd y mae pobol Wyddelig wedi’i wynebu ers canrifoedd, yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

“Mae Mr Price yn iawn i fynnu canslo’r sioe yn ddiweddarach yr wythnos hon, fel y dylai’r holl aelodau o Lywodraeth Cymru sy’n poeni am gydraddoldeb a gwrth-wahaniaethu.

“O ran y sylwadau ar wefan Mr Carr, unwaith eto maen nhw’n anghywir.

“Mae gan y Gymdeithas Rodeo Hoyw Ryngwladol ganllawiau iechyd a diogelwch clir iawn ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau rodeo; gallwch ddod o hyd iddyn nhw yma: http://www.igra.com/resources/HelthSafety.htm

“Mae sylwadau ‘ffwrdd â hi’ Mr Carr yn nodweddiadol o ba mor anghywir yw ei ddeunydd, hyd yn oed ffeithiau sylfaenol.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb, mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi tynnu sylw at ei sylwadau ar lawr y Siambr.

“Mae’r sylwadau sydd wedi’u priodoli i’r unigolyn yn gwbl annerbyniol, a bydden nhw’n cael eu condemnio gan unrhyw un, dw i’n meddwl, yn y Siambr hon,” meddai.

“Dim ond wythnos ddiwethaf roedden ni’n siarad am ein pryderon am gymunedau Sipsiwn/Teithwyr, ac fe drafodon ni’r rheiny am yn hir ym mwrdd plismona Cymru y gwnes i a’m cydweithiwr Jane Hutt ei fynychu.

“Pe bai mor syml â chyhoeddi gorchymyn a rhoi pethau’n iawn, yna wrth gwrs y byddem yn gallu gwneud hynny, ond dw i’n gwybod o’r hyn glywais i gan Gyngor Caerdydd nad yw hi mor syml â hynny.

“Mae’r farn a gafodd ei mynegi yn ffiaidd i’m cydweithwyr yng Nghyngor Caerdydd, fel y maen nhw i bob un ohonom yma, a dw i’n siŵr y bydd y teimladau hynny’n cael eu cyfleu’n gryf.”

Cwmni Diwylliant a Chelfyddydau Romani yng Nghaerdydd wedi’u “ffieiddio” gan sylwadau Jimmy Carr

Alun Rhys Chivers

“All cymdeithas agored, oddefgar ddim dewis a dethol pa grwpiau sy’n haeddu goddefgarwch a dealltwriaeth”