Bydd Huw Stephens ac Aleighcia Scott yn dechrau cyflwyno rhaglen yr Evening Show ar BBC Radio Wales.

Gan rannu’r cyflwyno rhyngddyn nhw, bydd Huw Stephens yn cyflwyno o nos Lun i nos Fercher a’r gantores a’r gyfansoddwraig Aleighcia Scott yn cymryd drosodd ar nos Iau.

Daw Aleighcia Scott o Gaerdydd, ac mae hi’n gantores reggae sy’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.

“Fel artist ifanc yn tyfu fyny yng Nghaerdydd, gyda gwreiddiau teuluol yn Nhrelawny yn Jamaica, dw i wedi cael cryn gefnogaeth ac anogaeth gan bawb o’m cwmpas, gan gynnwys BBC Radio Wales,” meddai Aleighcia Scott.

“Dw i wrth fy modd fy mod i’n mynd i fod yn cyflwyno fy sioe fy hun lle y gallaf rannu fy nghariad tuag at gerddoriaeth a diwylliant gyda theulu BBC Radio Wales.”

‘Caru Cymru a charu’r radio’

Dywed Huw Stephens ei fod yn caru Cymru ac yn caru’r radio, a’i fod yntau wedi cyffroi hefyd.

“Mae’r sioe yn cael ei chynhyrchu yn Wrecsam, ei chyflwyno yng Nghaerdydd, ac allai ddim aros i chwarae’r gerddoriaeth Gymreig newydd orau, siarad gydag enwau cerddorol anferth sy’n dod i Gymru eleni wrth i gerddoriaeth fyw ailddechrau’n iawn eto, a siarad gyda rhai gwesteion diddorol iawn,” meddai.

“Mae’n mynd i fod yn hwyl!”

‘Dyfnder ac ystod’

“Mae Huw Stephens yn un o leisiau mwyaf amlwg ei genhedlaeth mewn darlledu cerddoriaeth,” meddai Colin Paterson, Pennaeth BBC Radio Wales, wrth groesawu’r ddau.

“Mae ei wybodaeth, ei angerdd, a’i arbenigedd yn golygu mae ef yw’r person delfrydol i ddathlu cerddoriaeth newydd.

“Mae Aleighcia yn dalent newydd cyffrous, gydag egni heintus. Gyda’i gilydd, bydd cyflwynwyr newydd yr Evening Show yn ychwanegu dyfnder ac ystod i’r gymysgedd o raglenni cerddoriaeth ar BBC Radio Wales.”

Bydd Huw Stephens ac Aleighcia Scott i’w clywed ar yr Evening Show o Ebrill 4.