Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesaf, wrth iddi fynd i Lanymddyfri.

Ymwelodd yr Eisteddfod â Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf yn 1935 pan gafodd yr Eisteddfod ei chynnal yng Nghaerfyrddin, ac mae’r ymweliadau diweddaraf yn cynnwys Eisteddfod Sir Gâr yn 2007 ac Eisteddfod Cwm Gwendraeth yn 1989.

Mae disgwyl i filoedd o bobol ddod i’r ŵyl a fydd yn cael ei chynnal rhwng Mai 31 a Mehefin 4 y flwyddyn nesaf.

Dyma fydd yr wythfed tro i’r ŵyl gael ei chynnal yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn denu tua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae dros 15,000 o blant a phobl ifanc dan 25 oed yn cystadlu yn ystod wythnos yr Eisteddfod, y gorau o tua 40,000 o gystadleuwyr ledled Cymru sydd wedi ennill eu lle yn dilyn eisteddfodau cylch a sir.

Yn ôl y Cynghorydd Linda Evans, dirprwy arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, bydd y digwyddiad yn gyfle i bobol weld y gorau y gall Cymru ei gynnig.

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein dewis i gynnal y digwyddiad hwn unwaith eto yn Sir Gaerfyrddin,” meddai.

“Bydd y digwyddiad o fudd mawr i’r economi leol ac ar yr un pryd bydd yn rhoi cyfle i bawb yn Sir Gaerfyrddin brofi gwir ddiwylliant Cymru p’un a yw’r ymwelydd yn siarad yr iaith ai peidio.

“Bydd cynnal y digwyddiad hwn hefyd yn cyfrannu at weledigaeth ein strategaeth uchelgeisiol ar gyfer y Gymraeg ac yn sicrhau ei bod yn cael ei chlywed, ei siarad a’i dathlu.”

Mae’r Cynghorydd Darren Price, sy’n arwain y Cyngor, hefyd yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf.

“Dyma un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Cymru ac mae’n gyfle gwych i ddathlu ein hymrwymiad i gelfyddydau a diwylliant Cymru,” meddai.

“Nid yn unig y mae’n arddangos rhai o dalentau gorau Cymru mewn cerddoriaeth, barddoniaeth a dawns ond mae’n dod â manteision economaidd enfawr, bri a chyhoeddusrwydd.”