Aeth 118,000 o bobol i Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych dros yr wythnos ddiwethaf – mwy nag erioed o’r blaen wrth i’r mudiad ddathlu ei ganmlwyddiant eleni.
Roedd mynediad i’r ŵyl yn rhad ac am ddim eleni.
Camodd miloedd o gystadleuwyr o bob cwr o Gymru ar lwyfannau tri o bafiliynau’r Eisteddfod wrth i’r Urdd gynnig ‘llwyfan i bawb’ am y tro cyntaf fel rhan o arbrawf sydd, yn ôl trefnwyr yr ŵyl, wedi bod yn “llwyddiant ysgubol”.
“Rydym yn hynod ddiolchgar i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles a Llywodraeth Cymru am ei gwneud yn bosibl i ni gynnig mynediad am ddim i bawb i faes yr Eisteddfod eleni,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
“Mae mynediad am ddim wedi arwain at ddenu mwy o ymwelwyr a chystadleuwyr o bob cwr o Gymru, a braf gweld gymaint o amrywiaeth ar faes yr ŵyl. Mae hi wir wedi bod yn Eisteddfod i bawb.”
“Fel trefnwyr rydym ni’n falch fod yr arbrawf o gael tri phafiliwn yn hytrach na un, a chynnig llwyfan i bawb, wedi’i groesawu gan ein cystadleuwyr ac yn llwyddiant ysgubol,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau.
“Byddwn yn parhau gyda’r datblygiad yma wrth drefnu Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2023.
“Mae sawl elfen newydd a chyffrous arall wedi eu cyflwyno ar Faes yr Eisteddfod eleni, ond fel unrhyw ŵyl gwerth ei halen, mi fydd yr Urdd yn asesu a gwerthuso pob datblygiad cyn penderfynu pa elfennau newydd eraill sy’n cael eu hymgorffori flwyddyn nesaf ac i’r dyfodol.
“Mae ein diolch yn fawr i’r holl athrawon, hyfforddwyr, rhieni a gofalwyr am weithio’n ddiflino wrth ddysgu, creu ac hyfforddi’r cystadleuwyr dros y misoedd diwethaf, a sicrhau safon a llwyddiant yr Eisteddfod arbennig hon.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n noddwyr a’n partneriaid am eu cefnogaeth ac wrth gwrs i’r holl staff a gwirfoddolwyr am eu gwaith di-baid.”
Sylw’r cyfryngau a datblygiadau newydd
Roedd 185 o oriau o gynnwys o faes yr Eisteddfod ar draws llwyfannau S4C, ynghyd â chynnwys amrywiol drwy gydol yr wythnos ar BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw.
Datblygiad arall yn Eisteddfod yr Urdd eleni oedd Gŵyl Triban, sydd wedi ac yn parhau i fod yn llwyddiant mawr i drefnwyr yr ŵyl.
Fel rhan o ddathliadau’r canmlwyddiant roedd arlwy Gŵyl Triban yn gyfle gwych i adlewyrchu cerddoriaeth gyfoes Cymraeg, ond hefyd yn gyfle i ddathlu perfformwyr a chaneuon y gorffennol, ac yn blethiad perffaith o’r hen a newydd.
Roedd ardal Garddorfa dan ei sang gyda chynulleidfa’n chwerthin a mwynhau perfformiadau risqué a chaboledig Cabarela ar y nos Iau.
Nos Wener, fe wnaeth Eden ymuno â Tara Bandito ar lwyfan.
Bu i Yws Gwynedd gloi’r noson gyda’r ffefryn Sebona Fi.
Roedd y perfformwyr neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 4) yn cynnwys N’Famady Koyuate, sy’n cael ei ddylanwadu gan Mandingue Affricanaidd, jazz gorllewin Ewrop, pop, indie a ffync.
Fel rhan o arlwy nostalgia Gŵyl Triban, bu Tecwyn Ifan a Dilwyn Siôn yn perfformio cyn i Adwaith ac Eden gloi’r noson.
Seremonïau
Roedd teilyngdod ym mhob un o brif seremonïau’r Eisteddfod.
Ar ddechrau’r wythnos cyhoeddwyd mai Shuchen Xie, 12 oed, o Gaerdydd oedd enillydd Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd 2022 – y person ieuangaf erioed i ennill Prif Wobr yr Urdd yn hanes yr Eisteddfod.
Josh Osborne o Poole enillodd Medal y Dysgwyr ag Anna Ng o Gaerdydd oedd enillydd Medal Bobi Jones.
Bu i Osian Wynn Davies o Lanfairpwll ennill y Fedal Ddrama, Ciarán Eynon o Landrillo-yn-rhos, Sir Conwy ennill y Gadair a choronwyd Twm Ebbsworth o Lanwnnen, Ceredigion fel Prifardd yr ŵyl.
Daeth cadarnhad o enwau’r tri chystadleuydd lwcus fydd yn cael perfformio yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn Philadelphia fis Medi: Siriol Elin (Cylch Bro Aled, Conwy), Manon Ogwen Parry (Adran y Fro, Bro Morgannwg) a Tomos Gwyn Bohana (tu allan i Gymru).
Y côr fydd yn cynrychioli’r Urdd fel côr swyddogol Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham fis Awst fydd Côr Dyffryn Clwyd.
Mae panel o feirniad hefyd wedi dewis y chwe chystadleuydd mwyaf addawol o fewn y categori oedran hŷn o dan 25 oed, i ymgeisio am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2022 yn yr hydref.
Y chwech fydd yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth eleni fydd Fflur Davies (Cylch Arfon), Gwenno Morgan (Aelwyd Llundain), Ioan Williams (Adran Bro Taf), Mali Elwy (Adran Bro Aled), Owain Rowlands (Aelod Unigol Blaenau Tywi) a Rhydian Tiddy (Cylch Blaenau Tywi).
Mae’r Urdd yn falch o gyhoeddi mai Gwenan Mars-Lloyd (Sir Ddinbych) a Nansi Rhys Adams (Caerdydd a’r Fro) sy’n derbyn Ysgoloriaeth yr Eisteddfod eleni – ysgoloriaeth a wobrwyir i’r cystadleuwyr mwyaf addawol yn yr oedran blwyddyn 10 a dan 19 oed.
Catrin Jones o Lanwnnen, Ceredigion oedd enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Bl.10 a dan 25 oed (a roddir drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu) a dyfarnwyd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg Bl.10 a dan 19 oed i Nel Thomas o Gaerdydd (rhoddir y Fedal gan Bapur Bro Y Bigwn).
Y flwyddyn nesaf, bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chynnal yn Sir Gâr rhwng Mai 29 a Mehefin 3.