Mae tîm criced y Tân Cymreig wedi penodi Mark Alleyne, cyn-gapten Swydd Gaerloyw a chwaraewr amryddawn Lloegr, yn is-hyfforddwr.

Bydd e’n cydweithio â’r prif hyfforddwr Gary Kirsten a’r is-hyfforddwyr eraill, Matthew Maynard a Jason Kerr yn y gystadleuaeth Can Pelen.

Ar hyn o bryd, mae Alleyne yn sgowt ar gyfer tîm prawf Lloegr ac yn Gyfarwyddwr Chwaraeon Cynorthwyol yng Ngholeg Marlborough.

Yn fwyaf diweddar, roedd e’n aelod o dîm hyfforddi tîm ugain pelawd Lloegr ar eu taith i’r Caribî.

Cynrychiolodd e Loegr ddeg gwaith mewn gemau undydd, ac roedd e’n gapten ar dîm Swydd Gaerloyw oedd wedi ennill naw tlws undydd mewn saith mlynedd.

‘Cyffro’

“Dw i wrth fy modd o gael ymuno â’r Tân Cymreig a chael y cyfle i weithio gyda Gary Kirsten a’i dîm hyfforddi,” meddai Mark Alleyne.

“Mae’n destun cyffro cael gweithio’n agos gyda’r chwaraewyr élit a gobeithio y galla i ddefnyddio fy mhrofiad i ychwanegu gwerth i’r hyn maen nhw’n ei wneud a helpu i greu fformiwla i’r Tân Cymreig gael ennill.

“Ro’n i wrth fy modd yn gwylio’r Can Pelen y llynedd, ac mae’n destun cyffro cael bod yn rhan o gystadleuaeth a gydiodd yn nychymyg cefnogwyr ac a ddaeth â chynulleidfaoedd newydd i griced.”

‘Mynd i’r lefel nesaf’

“Roedd Mark yn un o chwaraewyr mwyaf blaengar a chynyddgarol ei genhedlaeth, ac mae’n ychwanegiad gwych i dîm hyfforddi’r Tân Cymreig,” meddai’r rheolwr Mark Wallace.

“Mae e’n llawn brwdfrydedd ac o adnabod Mark, fe fydd e’n dod â digon o syniadau newydd i’r bwrdd a fydd yn helpu i fynd â’r Tân Cymreig i’r lefel nesaf.”