Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed dynion Cymru, yn mynnu nad yw ei dîm yn cystadlu yng Nghynghrair y Cenhedloedd “i wneud y rhifau i fyny”.

Bydd Cymru’n herio’r Iseldiroedd yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Fercher, Mehefin 8), gyda’r gic gyntaf am 7:45yh.

Mae Cymru yn haen uchaf y gystadleuaeth eleni, ac mewn grŵp gyda Gwlad Belg, Gwlad Pwyl a’r Iseldiroedd.

Collon nhw eu gem gyntaf yn erbyn Gwlad Pwyl o 2-1 oddi gartref yr wythnos diwethaf.

Fodd bynnag, roedd y tîm wnaeth herio’r Pwyliaid yn un eithaf gwan, wrth i Rob Page warchod chwaraewyr nes y gêm dyngedfennol yn erbyn Wcráin ddydd Sul (Mehefin 5).

A gyda Chymru yn gorfod herio’r Iseldiroedd dridiau’n unig ar ôl y canlyniad hanesyddol hwnnw, ar ôl cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, y gred yw na fydd nifer o sêr y tîm yn chwarae.

‘Cydbwysedd’

“Rydyn ni eisiau ennill gemau felly mae’n fater o gael y cydbwysedd yn iawn,” meddai Rob Page.

“Dw i ddim eisiau bod yn y gystadleuaeth hon i wneud y rhifau i fyny a dim ond rhoi cyfle i’n chwaraewyr ifanc i’r lefel yma o wrthwynebydd.

“Rydyn ni eisiau ennill gemau pêl-droed, felly i wneud hynny mae angen i ni gael y cydbwysedd yn iawn.

“Ydy hi’n realistig i ofyn i rai o’n chwaraewyr hŷn chwarae eto mor gyflym?

“Mae’n debyg nad yw e, os edrychwch chi’n ôl ar bwysigrwydd y gêm honno [yn erbyn Wcráin] a’r emosiwn.

“Roedd yn rhaid i’r bechgyn weithio’n eithriadol o galed, felly mae’n rhaid i ni barchu hynny a dewis tîm yn unol â hynny, ond fe welwch chi gyfuniad.

“Rydym yn barod ar gyfer gêm anodd.”