Mae rhediad di-guro tîm pêl-droed Cymru yng Nghaerdydd wedi dod i ben, gyda cholled o 2-1 yn erbyn yr Iseldiroedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd
Roedd Cymru’n ddi-guro mewn 19 gêm ar ei tomen ei hunain cyn heno, eu rhediad gorau erioed, gan ildio dim ond saith gôl a chadw 12 llechen lân, ond doedden nhw erioed wedi curo’r Iseldiroedd yn yr wyth gêm rhwng y ddwy wlad.
Yn wir, mae gan yr Iseldiroedd record dda yn y gemau hynny, gan sgorio 24 gôl – y gyfradd orau yn erbyn unrhyw wlad maen nhw wedi chwarae yn eu herbyn nhw o leiaf bum gwaith.
Ac roedd ceisio torri rhediad di-guro Louis van Gaal wrth y llyw am fod yn dasg anodd i dîm Rob Page oedd heb Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen a mwy.
Roedd y newidiadau, serch hynny, yn golygu cyfleoedd i chwaraewyr fel Brennan Johnson, Joe Morrell, Dylan Levitt a Rhys Norrington-Davies gyda Chwpan y Byd ar y gorwel ar ddiwedd y flwyddyn.
Hanner cyntaf
Daeth cyfle gorau’r hanner cyntaf ar ôl 24 munud, wrth i Harry Wilson daro cic rydd, ond roedd yn arbediad hawdd i Mark Flekken yn y gôl.
Naw munud gymerodd hi i’r ymwelwyr gael eu cyfle gorau, pan gollodd Joe Rodon y bêl yn yr amddiffyn, ond doedd yr Iseldiroedd ddim wedi gallu manteisio ar y camgymeriad.
Byddai Page wedi bod yn fodlon â pherfformiadau’r to iau, nid lleiaf Rhys Norrington-Davies i lawr yr asgell chwith, a hwnnw’n mynd ar sawl rhediad cryf, gan fwydo’r bêl i Wilson a Dan James, oedd yn edrych yn gyfuniad addawol ym mlaen y cae.
Roedd hi’n ddi-sgôr ar yr egwyl, felly, ond roedd digon o arwyddion addawol i Gymru.
Ail hanner
Bum munud yn unig gymerodd hi i’r Iseldiroedd sgorio wedi’r egwyl, gyda chyfres o basys celfydd i lawr yr ochr chwith yn ffeindio’u ffordd at Teun Koopmeiners, a hwnnw’n taro’r bêl ar draws yr eilydd o golwr Adam Davies, gyda Danny Ward heb ddychwelyd i’r cae ar gyfer yr ail hanner.
Daeth cyfle euraid i Dan James ar ôl 66 munud, wrth iddo ruthro ymlaen â rhediad cryf cyn ergydio dros y trawst, ond roedd Cymru’n dechrau magu rhywfaint o fomentwm cyn i’r Iseldiroedd ddod â Frenkie de Jong a Steven Bergwijn i’r cae i gryfhau a cheisio ymestyn eu mantais.
Gyda’r sgôr fel ag yr oedd hi, roedd hi’n anochel y byddai Gareth Bale yn gorfod dod i’r maes ar ryw adeg, ac fe ddigwyddodd hynny ar ôl 76 munud wrth i Gymru geisio unioni’r sgôr.
Daeth y gôl honno’n hwyr yn y gêm wrth i Rhys Norrington-Davies ei gwneud hi’n 1-1 yn yr amser a ganiateir am anafiadau, ond roedd torcalon i Gymru wrth i Wout Weghorst dorri calonnau Cymru yn yr eiliadau olaf.