Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau estynedig o gemau tîm rygbi Cymru yn erbyn y Springboks ar eu taith i Dde Affrica yr haf hwn.

Bydd Cymru yn herio pencampwyr y byd dair gwaith yn ystod mis Gorffennaf ac mi fydd rhaglen uchafbwyntiau yn cael ei ddangos am 9.00yh ar ddiwrnodau’r gemau.

Daw hyn dilyn cytundeb gyda deiliaid yr hawliau darlledu, Sky Sports.

Mi fydd chwaraewyr Cymru Ken Owens a Sioned Harries ymysg y rhai fydd yn dadansoddi’r gemau yn ystod y daith.

Nid yw Cymru erioed wedi ennill yn erbyn y Springboks yn Ne Affrica, felly fe allen nhw greu hanes yr haf yma.

Wrth i Gymru baratoi ar gyfer pob prawf, bydd cyfrifon @S4Cchwaraeon ar gyfryngau cymdeithasol yn rhannu’r newyddion diweddaraf a chynnwys ecsgliwsif o’r garfan.

Mae’r daith yn cychwyn gyda’r prawf gyntaf yn Loftus Versfeld yn Pretoria ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 2.

Bydd yr ail brawf yn cymryd lle yn Stadiwm Toyota yn Bloemfontein ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 9, cyn y prawf olaf yn Stadiwm DHL yn Cape Town ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 16.