Colli o naw rhediad oedd hanes tîm criced yn erbyn Hampshire mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd.

Dechreuodd y Saeson y gystadleuaeth gyda phedair colled, ond maen nhw bellach wedi ennill pedair gêm yn olynol.

Cawson nhw eu gwahodd i fatio, a sgorio 134 am bedair, gyda Joe Weatherley yn brif sgoriwr gyda 46, ond collodd Morgannwg wicedi’n rhy aml o lawer wrth gael eu bowlio allan am 125.

Roedd ganddyn nhw lygedyn o obaith tua diwedd yr ornest, wrth i Dan Douthwaite frwydro’n galed ond roedd hi’n rhy hwyr wrth iddo golli’i wiced i Brad Wheal, a gipiodd bum wiced am 38, ei ffigurau ugain pelawd gorau erioed.

Bowliodd Morgannwg yn dda yn y cyfnod clatsio, gan ildio dim ond 32 rhediad diolch yn bennaf i fowlio tynn Michael Hogan.

Ond adeiladodd James Vince a Weatherley bartneriaeth gadarn o 49 i osod y seiliau i Hampshire ar lain nad oedd yn hawdd sgorio arni.

Tarodd Vince 44 oddi ar 44 o belenni, ac roedd Weatherley heb fod allan am 46 gyda Toby Albert hefyd yn cyfrannu 21 heb fod allan oddi ar 15 o belenni.

Cwrso’n ofer

Roedd Morgannwg eisoes mewn trafferthion yn y cyfnod clatsio, wrth iddyn nhw golli’r capten David Lloyd a Colin Ingram o fewn y chwe phelawd gyntaf.

Cynigiodd Sam Northeast rywfaint o amddiffyniad gyda 36 wrth agor y batiad, ond collodd Morgannwg wicedi Kiran Carlson ac Eddie Byrom oddi ar belenni olynol.

Collon nhw un wiced ar ôl y llall ac erbyn i Northeast ddychwelyd i’r cwtsh, roedd y gyfradd sgorio angenrheidiol wedi codi yn agos i 12 y belawd.

Ymdrechodd Douthwaite yn galed ond parhau i gwympo wnaeth wicedi Morgannwg fel eu bod nhw’n brin o’r nod yn y pen draw.

Bydd Morgannwg nawr yn troi eu sylw’n ôl at y Bencampwriaeth ddydd Sul (Mehefin 12), wrth i Sussex lanio yng Nghaerdydd.