Mae Rheolwr Gwlad Belg, Roberto Martinez, wedi cynnig gair o gyngor i reolwr Cymru, Rob Page, ar sut i ymdopi â chyrraedd Cwpan y Byd.

Fe sicrhaodd Cymru ei lle yn y gystadleuaeth drwy drechu Wcráin o gol i ddim nos Sul (Mehefin 5).

Daw hyn wrth i Gymru baratoi i herio Gwlad Belg oddi cartref yng Nghynghrair y Cenhedloedd heno (nos Sadwrn, 11 Mehefin), gyda’r gic gyntaf am 7:45yh o’r gloch.

Mae tîm Rob Page wedi colli eu dwy gêm agoriadol yn y gystadleuaeth yn erbyn Gwlad Pwyl a’r Iseldiroedd.

“Mae Rob Page a’i staff wedi gwneud gwaith gwych, a dw i’n meddwl mai’r peth anoddaf yw cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd,” meddai

“Dyna pam rwyt ti’n ceisio rheoli pob agwedd o’r gwaith a pob manylyn am y grŵp, er mwyn sicrhau dy fod yn cyrraedd y gystadleuaeth.

“Ond all dim byd dy baratoi ar gyfer cyrraedd Cwpan y Byd, mae’n rhaid i ti fynd yna yn disgwyl yr annisgwyl.

“Mae popeth sydd yn dy wynebu yn newydd sbon felly’r unig gyngor allaf ei gynnig yw mynd yna gyda meddwl agored a cheisio gwireddu breuddwydion y cefnogwyr o weld y tîm yn mynd yn ddwfn i mewn i’r gystadleuaeth.”