Mae cyn-gapten a maswr Cymru a’r Llewod, Phil Bennett, wedi marw yn 73 oed.
Roedd Bennett, o Felinfoel ger Llanelli yn ffigwr allweddol yn oes aur Cymru, gan eu helpu i ennill dwy Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad yn y 1970au.
Bu hefyd yn disgleirio ar daith ddiguro hanesyddol y Llewod i Dde Affrica ym 1974 gan wneud 20 ymddangosiad i’r Barbariaid.
Mae’n cael ei ystyried yn un o’r chwaraewyr gorau i wisgo crys rhif 10 Cymru a’r Llewod.
Yn 1979 cafodd ei urddo gydag OBE ac roedd yn sylwebydd gyda BBC Cymru ar ôl ymddeol o rygbi ac yn llywydd rhanbarthol y Scarlets.
Mewn neges ar Twitter dywedodd y Scarlets: “Gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi marwolaeth un o arwyr y clwb, cyn-gapten a llywydd y Scarlets Phil Bennett Hunodd yn dawel yn ei gartref yng nghwmni ei deulu. Mae ein meddyliau gyda’i wraig Pat, ei feibion a’i deulu a ffrindiau yn ystod yr amser hynod o drist yma.”
“Dewin”
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd y sylwebydd rygbi Huw Llywelyn Davies:
“Roedd Phil yn ddewin o chwareawr, arian byw o faswr ac, fel person, er ei fod yn cael ei gydnabod fel un o fawrion y byd, doedd dim byd mawreddog amdano fe. Roedd amser i bawb ac er crwydro’r byd a chael clod byd eang, dyn ei filltir sgwâr oedd e. Roedd e’n barod iawn i siarad a phawb ac yn meddwl yn byd o bobl Felinfoel a phobl Felinfoel yn meddwl y byd ohono fe.”
Ychwanegodd: “Fe greodd a sgoriodd e rhai o’r ceisiau mwya’ cofiadwy dros Lanelli, dros Gymru, y Barbariaid a’r Llewod.
“Fe olynydd e Barry John a phan wnaeth Barry roi’r gorau i’r gem ar ôl taith y Llewod yn 1971 roedd cefnogwyr yng Nghymru yn meddwl mai dyna ddiwedd oes aur Cymru. Ond wedyn roedd Phil wedi cyrraedd ac fel barhaodd yr oes aur. Roedd arddull chwarae Phil a Barry yn wahanol i’w gilydd. Roedd Phil mor gyflym ar ei draed, a Barry yn fwy hamddenol, gosgeiddig ond y ddau, yn eu gwahanol ffyrdd, yr un mor llwyddiannus a’r un mor gyffrous a’i gilydd.”
Bydd Manon Steffan Ros yn talu teyrnged i Phil Bennett yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg