Cafodd dwy record cwrs newydd eu gosod ddoe (dydd Sul, 12 Mehefin) wrth i filoedd o redwyr droedio strydoedd Abertawe ar gyfer ras hanner marathon flynyddol y ddinas.

Dyma’r wythfed tro i Hanner Marathon JCP Abertawe gael ei chynnal gyda’r ddiweddaraf yn cael ei symud i fis Hydref 2021 oherwydd y pandemig.

Wedi’i chynnal gyntaf yn 2014, mae’r ras wedi sefydlu ei hun fel ail hanner marathon fwyaf Cymru erbyn hyn ar ôl Hanner Marathon Caerdydd.

Roedd hynny’n dangos ddydd Sul gyda nifer o redwyr pellter gorau Prydain wedi eu denu i gystadlu ymysg y rhedwyr elite, a doedd hi ddim yn syndod felly gweld recordiau’n cael eu gosod.

Natasha Cockram

Y Gymraes, Natasha Cockram, sef y rhedwraig marathon gyflyma’ erioed o Gymru, oedd enillydd ras y merched gan osod record cwrs newydd o 1:12:48 wrth wneud hynny. Dwy redwraig ryngwladol o Loegr ymunodd â hi ar y podiwm sef Naomi Mitchell (1:15:11) a Danielle Nimmock (1:16:36).

Roedd y safon yn uchel iawn ymysg y dynion elite hefyd gydag enillydd 10k Bae Caerdydd llynedd, Omar Ahmed, yn cipio’r fuddugoliaeth mewn record cwrs o 1:04:01.

Y sais, Phil Sesemann, oedd yn 7fed ym Marathon Llundain yn yr hydref oedd yn agos iawn yn yr ail safle, ddim ond 6 eiliad y tu ôl i Ahmed. Cwblhawyd y podiwm gan Ollie Lockley mewn 1:04:31 gyda’r Cymru cyntaf, Josh Griffiths yn gorffen yn bedwerydd mewn 1:04:53.

Roedd tua 4000 o redwyr yn rhedeg ddoe gyda’r ras yn dechrau a gorffen ger Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a’r cwrs yn mynd a’r rhedwyr allan i gyfeiriad y Mwmbwls cyn troi nôl am ganol y ddinas.

“Roedd y ras elite yn Hanner Marathon JCP Abertawe eleni’n hynod o gystadleuol, gyda record y dynion a’r merched yn cael eu torri” meddai cyfarwyddwr y ras, David Martin-Jewell wrth golwg360.

“Roedd gweld Natasha’n gorffen yn gyntaf yn ras y merchec yn foment wych.

“Rydym wedi ei gweld yn datblygu i fod yn rhedwr anhygoel i Gymru ac yn edrych ymlaen i weld yr hyn y gall gyflawni yng Ngemau’r Gymanwlad fis Gorffennaf.”

Canlyniadau llawn Hanner Marathon Abertawe.

Prif Lun: Natasha Cockram yn croesi’r llinell derfyn i gipio’r fuddugoliaeth (Llun: Front Runner Events)