Bydd Gemau Stryd cyntaf Cymru yn cael eu cynnal gan yr Urdd ym Mae Caerdydd dros y penwythnos (Mehefin 18 – 19).
Fe fydd y penwythnos yn gyfle i blant wyth oed a throsodd, pobol ifanc, a chystadleuwyr proffesiynol gystadlu mewn pump o gampau gan gynnwys Pêl Fasged 3 x 3, dawnsio ‘Breakin’, sglefrfyrddio, BMX, a Sgwtera.
Yn ogystal â chystadlu, bydd cyfle i bawb gael blas ar y campau, a mwynhau gweithdai DJ, graffiti a chelf stryd yn ardal Plas Roald Dahl yn y bae.
Bydd nifer o enwogion o’r byd Gemau Stryd yn cymryd rhan yn y digwyddiad, gan gynnwys y sglefrfyrddwyr proffesiynol Mathew Pritchard a Jordan Sharkey.
Fe fydd pencampwr BMX Prydain, James Jones o Abertawe, a Lily Rice, y ferch gyntaf yn Ewrop i wneud ‘back flip’ mewn cadair olwyn, ymysg y sêr fydd yn ymuno â nhw.
“Ysbrydoli’r to nesaf’
Does dim dwywaith bod Adran Chwaraeon yr Urdd yn darparu “cyfleoedd amhrisiadwy” i blant a phobol ifanc, meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, gyda 11,000 ohonyn nhw’n cymryd rhan mewn 300 clwb chwaraeon bob wythnos.
“Mae campau stryd yn tyfu mewn poblogrwydd ac erbyn hyn yn rhan o arlwy’r Gemau Olympaidd, felly mae’n hollbwysig bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael cyfle i brofi a datblygu sgiliau yn y campau hyn,” meddai Sian Lewis.
“Mae’n amserol inni lansio’r Gemau Stryd fel digwyddiad newydd yn ystod blwyddyn ein canmlwyddiant, bydd hi’n brofiad arbennig i’n plant a phobl ifanc i gystadlu ochr yn ochr â sêr y sîn.
“Mae’r Gemau Stryd yn bluen arall i’r rhestr o ddigwyddiadau Chwaraeon Cenedlaethol mae’r Urdd yn ei gydlynu gyda’n partneriaid ac rydym yn gobeithio byddwn ni’n ysbrydoli’r to nesaf o bencampwyr byd.
“Mae hi’n bwysig tu hwnt i ni fel mudiad ein bod yn parhau i arbrofi, esblygu ac arloesi o ran ein cyfleoedd a’n cynnig i bobl ifanc Cymru.”
‘Helpu plant a phobol ifanc’
Mae Jordan Sharkey o Wrecsam yn angerddol am ysbrydoli’r to nesaf ac yn gyffrous iawn i gael bod yn un o Lysgenhadon Gemau Stryd yr Urdd.
“Doedd dim cyfleoedd i ddatblygu pan o’n iau, dyna oedd yr ysgogiad i sefydlu fy ysgol sglefrfyrddio newydd,” meddai Jordan Sharkey.
“Roedd pobol yn dweud nad oedd modd cael gyrfa yn y maes, ond dw i wedi profi bod hynny’n anghywir. Mae’n bwysig i bobol ifanc wybod bod modd gwneud gyrfa o’r hyn ti’n caru ac mae’n ffordd wych o gadw’n heini hefyd.
“Dw i’n ddiolchgar iawn i’r Urdd am roi platfform gwych i’r campau yma a dw i methu aros i fod yno yn cystadlu a rhannu fy sgiliau.”
‘Cyfle gwych’
Mae’r seren sglefr fyrddio Mathew Pritchard o Gaerdydd yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin fawr wedi iddo deithio’r byd yn cystadlu ac yn dangos ei ddoniau yn ei gyfres deledu Dirty Sanchez.
“Dechreuodd fy siwrne i gyda’r sglefrfyrddio ar strydoedd y Rhath, mae wedi mynd a fi i bob cornel o’r byd sy’n profi bod y campau yma yn agor drysau,” meddai Mathew Pritchard.
“Mae’r Urdd wedi trefnu digwyddiad cyffrous, ble bydd plant ac enwogion yn rhannu llwyfan yma yng Nghaerdydd – yn y ddinas dwi’n ei charu!
“Dw i’n annog pawb o bob oedran i ddod lawr i’r Bae i fwynhau, i ryfeddu at y sgiliau a chael tro arni. Mae hwn yn fenter newydd a chyffrous i’r Urdd ac yn gyfle gwych i’n pobol ifanc.
“Dw i’n methu aros i fod yno ar fy mwrdd sglefrio yn rhannu fy sgiliau a gweld y plant a’r pro’s wrthi’n cael hwyl yn ein Prif Ddinas.”
‘Talent rhyngwladol’
Mae’r digwyddiad wedi cael ei drefnu mewn partneriaeth â’r cwmni band eang Ogi, a byddan nhw’n darparu cysylltedd rhyngrwyd di-wifr am ddim i ymwelwyr Bae Caerdydd dros y penwythnos.
Dywedodd Justin Leese, Prif Swyddog Technoleg a Gweithrediadau Ogi bod y bartneriaeth rhyngddyn nhw a’r Urdd yn un “gyffrous”.
“Mae’r Urdd wedi bod yn darparu cyfleoedd cyfoes i bobl ifanc ledled Cymru ers cenedlaethau ac, wrth i ni nodi blwyddyn eu Canmlwyddiant, mae’n teimlo’n addas bod Ogi yn gweithio gyda’r mudiad i helpu i ddod â’r Gemau Stryd i ardal eiconig Bae Caerdydd,” meddai.
“Bydd y penwythnos, wedi’i gysylltu gan Ogi, yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc gystadlu yn ogystal â dysgu sgiliau newydd drwy sesiynau blasu am ddim, dan arweiniad talent ryngwladol o’r sîn. Mae’n gyfnod cyffrous i bawb – a gallwn ni ddim aros!”
Bydd Gemau Stryd yr Urdd yn cael eu cynnal yn ac o amgylch Plas Roald Dahl, tu allan i Ganolfan y Mileniwm, ym Mae Caerdydd rhwng Mehefin 18 ac 19, gyda mynediad am ddim.