Mae Matt Gill wedi cael ei benodi’n ddirprwy brif hyfforddwr tîm pêl-droed Abertawe yn barhaol.

Cafodd ei benodi’n hyfforddwr datblygiad technegol pan gafodd Russell Martin ei benodi’n brif hyfforddwr fis Awst y llynedd, ond fe fu’n ddirprwy dros dro yn dilyn ymadawiad Luke Williams ym mis Chwefror.

Fel chwaraewr, ymddangosodd Gill mewn mwy na 450 o gemau i Peterborough, Notts County, Caerwysg, Norwich, Walsall, Bristol Rovers a Tranmere.

Daeth yn is-reolwr i Rob Edwards yn Tranmere ar ôl mentro i’r byd hyfforddi, ac fe ddychwelodd oddi yno i Norwich i weithio gyda’r Academi a’r tîm dan 23.

Symudodd i Ipswich yn 2018 yn aelod o dîm hyfforddi Paul Lambert ac wedyn Paul Cook, cyn symud gyda Russell Martin i MK Dons ac yna i Abertawe.

“Dw i’n hapus iawn ac yn falch o gael ymgymryd â’r rôl,” meddai Matt Gill.

“Mae gweithio gyda Russell wedi bod yn wych, ac fe wnes i wir fwynhau camu i fyny a derbyn mwy o gyfrifoldeb dros y misoedd diwethaf.

“Dw i’n caru gweithio i’r clwb, dw i’n caru bod yma ac mae wedi bod yn brofiad gwych.”

Canu clodydd

Yn dilyn y penodiad, mae Russell Martin wedi bod yn canu clodydd Matt Gill.

“Mae gan Matt berthynas wych gyda’r staff a’r chwaraewyr,” meddai.

“Mae e’n fy herio i, mae e’n onest a bob amser yn cwestiynu lle gallwn ni wella.

“Mae e’n dda iawn yn ei waith.

“Mae e’n haeddu’r cyfle i gamu i fyny’n llawn amser gan ei fod e wedi gwneud yn wych ers camu i’r rôl.

“Dw i’n credu y gallwch chi weld bod ein perfformiadau a’r ffordd rydyn ni’n gwneud pethau wir wedi gwella ers hynny.

“Dw i wedi bod yn bles iawn gyda’r ffordd mae’r ddeinameg yn gweithio, a dw i’n credu bod cysondeb yn bwysig i ni a’r chwaraewyr.”