Mae Llywodraeth Catalwnia wedi gofyn i Bwyllgor Olympaidd Sbaen ystyried eu cais i gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf 2030 ar eu pennau eu hunain.

Daw hyn ar ôl i Argaon dynnu’n ôl o gais ar y cyd, sydd wedi codi amheuon am ddyfodol Catalwnia yn y cais.

Fe fu trafodaethau anffurfiol am y posibilrwydd hyd yn hyn, gyda Laura Vilagrà, un o weinidogion Llywodraeth Catalwnia, yn dweud ei bod hi’n bosib y gallen nhw ystyried cynnal cais ar gyfer 2034 hefyd.

Dywed y byddai parhau â’r cais ar y cyd ag Aragon yn “anodd iawn”, ond mae Mayte Pérez, gweinidog yn Aragon, yn dweud bod cyflwyno cais unigol yn “hollol annerbyniol” ac mae pryderon bellach y gallen nhw geisio atal cais Catalwnia i wneud hynny.

Ffrae

Dechreuodd y ffrae rhwng Catalwnia ac Aragon wrth benderfynu pwy fyddai’n cynnal pa gampau.

Roedd hyn er gwaetha’r ffaith fod Pwyllgor Olympaidd Sbaen eisoes wedi cyhoeddi cais ar y cyd rhyngddyn nhw i gynnal Gemau 2030.

Fe wnaeth Catalwnia ddatgan eu cefnogaeth i’r cais wedyn, ond nid Aragon a’r diwrnod canlynol, fe wnaeth Aragon wfftio’r cais yn llwyr gan ddweud y bydden nhw’n cyflwyno cais “tecach” o’r newydd.

Ond dydy Catalwnia ddim yn fodlon derbyn hynny, gan gyhuddo Aragon o wneud tro pedol am resymau gwleidyddol.

Mae Catalwnia ac Aragon wedi cyfarfod dwywaith ers hynny, yn fwyaf diweddar ar Fehefin 7, ond mae’r ffrae yn parhau.