Bydd gwasanaeth coffa i Phil Bennett, un o fawrion rygbi Cymru a Llanelli, yn cael ei gynnal ym Mharc y Scarlets.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar, dywedodd rhanbarth y Scarlets y bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Llanelli ddydd Gwener, Mehefin 24.

Bu farw cyn-gapten a maswr Cymru a’r Llewod yn 73 oed.

Roedd Phil Bennett, oedd yn dod o Felinfoel ger Llanelli, yn ffigwr allweddol yn oes aur Cymru, gan eu helpu i ennill dwy Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad yn y 1970au.

Bu hefyd yn disgleirio ar daith ddiguro hanesyddol y Llewod i Dde Affrica ym 1974, gan wneud 20 ymddangosiad i’r Barbariaid yn ystod ei yrfa hefyd.

Mae’n cael ei ystyried yn un o’r chwaraewyr gorau i wisgo crys rhif 10 Cymru a’r Llewod.

Yn 1979, cafodd ei urddo ag OBE ac roedd yn sylwebydd gyda BBC Cymru ar ôl ymddeol o rygbi ac yn llywydd rhanbarth y Scarlets.

Phil Bennett, un o fawrion timau rygbi Cymru a’r Llewod, wedi marw’n 73 oed

Roedd yn ffigwr allweddol yn oes aur Cymru – ‘dewin o chwaraewr, arian byw o faswr’ meddai Huw Llywelyn Davies