Mae’r awdurdodau criced wedi cyhuddo nifer o unigolion o ddwyn anfri ar y gêm yn sgil helynt hiliaeth Clwb Criced Swydd Efrog.

Mae’r unigolion, nad ydyn nhw wedi cael eu henwi, yn wynebu dirwy neu waharddiad gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â honiadau o hiliaeth gan Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr Swydd Efrog, sydd yn dweud bod hiliaeth sefydliadol o fewn y gamp a bod y sefyllfa wedi ei arwain i ystyried lladd ei hun.

Mae 16 aelod o staff Swydd Efrog bellach wedi gadael eu swyddi, a’r clwb wedi’i gyhuddo o dorri rheolau gwrth-hiliaeth.

Yn ôl Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, fe wnaethon nhw gynnal ymchwiliad “trylwyr a chymhleth” i’r honiadau, ac mae disgwyl i wrandawiadau gael eu cynnal fis Medi neu Hydref.

Wrth fynd i’r afael â’r sefyllfa, mae’r clwb wedi penodi’r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn aelod o’r Bwrdd, ac mae Ottis Gibson, cyn-chwaraewr tramor Morgannwg o’r Caribî, wedi’i benodi’n brif hyfforddwr.

Honiadau

Gwnaeth Azeem Rafiq yr honiadau mewn cyfweliad fis Medi 2020.

Cynhaliodd Clwb Criced Swydd Efrog ymchwiliad flwyddyn yn ddiweddarach, ac fe gytunodd panel annibynnol â saith allan o’r 43 honiad.

Ond chafodd adroddiad y panel mo’i gyhoeddi, a chafodd neb eu cosbi yn sgil casgliadau’r panel.

Cafodd y sefyllfa ei beirniadu’n helaeth fis Tachwedd y llynedd, a chafodd Swydd Efrog eu gwahardd rhag cynnal criced rhyngwladol hyd nes eu bod nhw’n mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Camodd y cadeirydd Roger Hutton a’r prif weithredwr Mark Arthur o’r neilltu.

Yn ddiweddarach, cafodd Michael Vaughan, cyn-chwaraewr Swydd Efrog a chyn-gapten Lloegr, ei enwi fel un oedd wedi gwneud sylwadau hiliol, ond mae’n gwadu’r honiadau.

Aeth Azeem Rafiq gerbron pwyllgor seneddol i amlinellu’r honiadau, gan ddweud bod y capten Gary Ballance a’r bowliwr Jack Brooks wedi defnyddio ffugenwau hiliol i gyfeirio at chwaraewyr, ac fe gyfaddefodd Ballance iddo wneud hynny.

Cafodd agweddau hiliol Tim Bresnan, Andrew Gale a Matthew Hoggard eu crybwyll gan Rafiq hefyd, a’r rheiny’n gyd-chwaraewyr yn y clwb.

Ond fe wnaeth Bresnan wadu iddo wneud sylwadau hiliol.

Cafodd sylwadau Azeem Rafiq eu hategu gan eraill o fewn y clwb, gan gynnwys un chwaraewr tramor a dau gyn-chwaraewr ieuenctid.

Fis Rhagfyr y llynedd, gadawodd Gale y clwb, ynghyd â’r Cyfarwyddwr Criced Martyn Moxon ac 14 o unigolion eraill.

Ond enillodd Gale achos wrth honni iddo gael ei ddiswyddo’n annheg, ochr yn ochr â’r hyfforddwyr Ian Dews, Richard Pyrah, Richard Damms, Ian Fisher a Peter Sim.

Ddechrau’r wythnos hon, cyhoeddodd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr adolygiad o hiliaeth o fewn y gamp, gan benodi corff Mwslimaidd i oruchwylio’r gwaith.

Yn dilyn newidiadau strwythurol, gall Swydd Efrog gynnal criced rhyngwladol unwaith eto, wrth groesawu Seland Newydd i Headingley yr wythnos nesaf.

Y Farwnes Tanni Grey-Thompson

Paralympwraig fwyaf llwyddiannus Cymru ac ymgyrchydd yn ymuno â bwrdd Clwb Criced Swydd Efrog

Mae’r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn un o chwe aelod newydd wrth i’r clwb geisio symud ymlaen o’r helynt hiliaeth
Azeem Rafiq

Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol yn cydnabod methiannau ar ddechrau Wythnos Cydraddoldeb Hiliol

Cafodd y gymdeithas eu beirniadu gan Azeem Rafiq, sydd wedi gwneud honiadau o hiliaeth sefydliadol yn erbyn Clwb Criced Swydd Efrog
Azeem Rafiq

Canslo cyfarfod Clwb Criced Swydd Efrog i drafod hiliaeth a llywodraethiant

Fe ddaeth i’r amlwg nad oedden nhw wedi dilyn y gweithdrefnau cywir wrth alw’r cyfarfod
Ottis Gibson

Cyn-fowliwr cyflym Morgannwg yw prif hyfforddwr newydd Swydd Efrog

Mae Ottis Gibson, sy’n hanu o India’r Gorllewin, wedi llofnodi cytundeb tair blynedd
Azeem Rafiq

Argymell atal arian cyhoeddus i griced oni bai bod yr awdurdodau’n mynd i’r afael â hiliaeth

Pwyllgor seneddol wedi cyhoeddi adroddiad yn dilyn ymchwiliad i helynt Azeem Rafiq, cyn-chwaraewr Clwb Criced Swydd Efrog