Ar ddechrau Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, mae prif weithredwr Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA) yn derbyn eu bod nhw wedi gwneud methiannau wrth geisio cefnogi Azeem Rafiq yn dilyn ei honiadau o hiliaeth sefydliadol yn erbyn Clwb Criced Swydd Efrog.

Dywedodd Rafiq, cyn-droellwr y sir, fod y mudiad yn “anhygoel o analluog” a’u bod nhw wedi ei adael e ar ei ben ei hun wrth iddo fynd gerbron pwyllgor seneddol ym mis Tachwedd i drafod hiliaeth yn y byd chwaraeon.

Dywedodd Rob Lynch wrth y pwyllgor seneddol fod “gwersi wedi’u dysgu” yn dilyn yr helynt dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod y mudiad yn “cymeradwyo Azeem am ei ddewrder wrth chwythu’r chwiban i greu newidiadau angenrheidiol”.

Cyfaddefodd Lynch nad yw’r mudiad “wedi cyrraedd y safonau oedd eu hangen”, ond eu bod nhw bellach wedi gwrando ar Azeem Rafiq ac wedi cyflwyno newidiadau.

Roedd Rafiq wedi cyhuddo’r gymdeithas o weithredu er mwyn “ticio bocsys rhag ofn fy mod i’n lladd fy hun”, ond mae Lynch yn mynnu eu bod nhw wedi gweithredu “oherwydd pryder gwirioneddol”.

Llinell gymorth a swydd newydd

Mae disgwyl i Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol sefydlu llinell gymorth i chwythu’r chwiban, a phenodi Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth.

Dywed Rob Lynch ei fod e “wedi dysgu bod angen lleisio pwysau’n fwy cyhoeddus ac yn gynt” ac y bydden nhw’n gwneud hynny pe bai sefyllfa debyg yn codi eto.

Ac mae’n cyfaddef fod y gymdeithas “wedi dangos gormod o ffydd yn Swydd Efrog a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr” gan gredu y bydden nhw’n mynd i’r afael â’r sefyllfa.

Dywed Julian Metherell, cadeirydd anweithredol y gymdeithas, y bydd Azeem Rafiq yn rhan o’r broses o gyflwyno rhaglen addysg newydd.

Mae’n dweud bod “beirniadaeth ein bod ni’n ei rhoi i’r siroedd dosbarth cyntaf a bod peth o’r hyn sy’n cael ei ddweud yn mynd i mewn i un glust ac allan drwy’r llall”.

“Un peth sydd ddim gennym yw cod ymddygiad,” meddai.

“Mae gennym ni god ymddygiad clir ynghylch cyffuriau a gamblo – does dim goddefgarwch – ond does gennym ni ddim un ar gyfer hiliaeth.

“Mae’n rhan o’r cynllun 12 pwynt, ac mae angen i ni gael sancsiynau clir a dim goddefgarwch o hiliaeth.”