Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau cyfres tair prawf yn erbyn De Affrica ym mis Gorffennaf, gyda gemau yn Pretoria, Bloemfontein a Cape Town.

Dyma fydd y tro cyntaf ers 2014 i Gymru fynd ar daith o amgylch y wlad, pan gollon nhw’r gyfres o 2-0.

Bydd y prawf cyntaf yn erbyn y Springbok yn Loftus Versfeld ddydd Sadwrn, Gorffennaf 2.

Yna, bydd tîm Wayne Pivac yn herio pencampwyr Cwpan y Byd ar Orffennaf 9 ac 16.

Dydy amserau’r gic gyntaf ar gyfer y profion ddim wedi’u penderfynu eto.

Fe wnaeth De Affrica guro Cymru o 23-18 yng Nghaerdydd yn ystod Cyfres Cenhedloedd yr Hydref y llynedd.

Mae’r ddwy wlad wedi wynebu ei gilydd 37 o weithiau ers eu cyfarfod cyntaf yn Abertawe yn 1906, gyda Chymru’n ennill dim ond chwech ohonyn nhw.