Mae Jonny Clayton wedi dweud wrth golwg360 mai’r noson yng Nghaerdydd i agor Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC eleni oedd “yr un fwya’ pwysig” iddo fe.
Collodd y Cymro Cymraeg o Bontyberem yn rownd derfynol y noson agoriadol yn Arena Motorpoint y brifddinas nos Iau ddiwethaf (Chwefror 3), ond bydd e’n mynd i Lerpwl nos Iau yma (Chwefror 10) mewn sefyllfa gref ar ôl cipio triphwynt yn y gynghrair, sy’n ei roi e yn yr ail safle cyn dechrau’r ail noson.
Yr Albanwr Peter Wright sydd ar y brig gyda phum pwynt, ar ôl iddo fe guro’r Cymro ar ei domen ei hun i agor y gynghrair, tra bod gan Clayton dri phwynt, ac mae gan yr Albanwr Gary Anderson a’r Sais James Wade ddau bwynt yr un.
Dydy’r Cymro arall, Gerwyn Price, ddim wedi sgorio eto ar ôl colli ei gêm wyth olaf gyntaf ar y noson agoriadol.
“I fod yn onest, roedd e’n anhygoel,” meddai Jonny Clayton wrth golwg360 am y profiad o gael chwarae o flaen torf Gymreig wrth iddo geisio amddiffyn ei deitl eleni.
“Roedd y dorf mor swnllyd, do’n i ddim yn gallu clywed ’yn enw yn cael ei alw arno.
“Dyna’r gorau fi byth wedi bod yn rhan o gystadleuaeth. Mae’n ffantastig!”
Ymweliad â’r Senedd
Cyn y noson agoriadol, cafodd y chwaraewyr y cyfle i ymweld ag adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd, a chael eu cyfarch gan ddau Aelod, y Ceidwadwr James Evans a’r Aelod Llafur Jack Sargeant.
I Jonny Clayton, roedd y profiad o gael bod yn yr adeilad yn un cwbl newydd.
“Dwi byth wedi bod yna o’r blaen,” meddai.
“Roedd e’n wahaniaeth ac yn neis cael wâc fach rownd i weld beth oedd yn digwydd mewn yna.”
Ydy’r gwahoddiad i’r Senedd, tybed, yn arwydd o ba mor bell mae’r gamp wedi dod yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf – er mai’r Cymro Leighton Rees oedd pencampwr cynta’r byd yn 1978?
“Gyda fi a Gerwyn yn gwneud yn dda yn y byd dartiau a phawb arall sy’n rhan ohono fe hefyd, fi’n credu bod e’n gam yn y ffordd iawn,” meddai Jonny Clayton.
“I fod yn onest, blwyddyn diwetha’, ro’n ni yn Milton Keynes i gyd, tu ôl drysau wedi cau. Roedd Caerdydd wythnos diwetha’n wahaniaeth i fi fel cwpwl o’r chwaraewyr eraill.”
‘Mae e’r un peth yn chwarae yn Lloegr o hyd’
Ond a fydd Lerpwl yr wythnos hon gystal, tybed?
“Yr un mwya’ pwysig i fi oedd Caerdydd so ta beth sy’n dod o hyn ymlaen nawr, mae e’r un peth yn chwarae yn Lloegr o hyd.
“Fi jyst yn disgwyl iddo fe fod yr un peth â beth yw pob cystadleuaeth arall. Ond yr awyrgylch yng Nghaerdydd, anghofia i byth o hwnna.
“Fi’n edrych ymlaen [i Lerpwl]. Fi’n chwarae’n dda, ac yn teimlo’n dda, so cadw fynd, dyna i gyd alla i wneud.
“Os nad yw hi fod, dyw hi ddim fod, dyna’r ffordd fi’n edrych ar fywyd a’r byd dartiau. Ti’n ennill rhai a ti’n colli rhai, ond fi’n gobeithio fydda i’n cadw ennill.”
Fformat newydd
Yn wahanol i’r fformat yn y blynyddoedd a fu, lle byddai pob chwaraewr yn chwarae un gêm bob wythnos yn ystod y gynghrair, mae pob wythnos yn dechrau gyda rownd wyth olaf, gyda’r enillwyr yn mynd i’r rownd derfynol ac yna’r rownd derfynol.
Y wobr bob wythnos yw pum pwynt a £10,000 ac mae hynny’n ysgogiad ychwanegol i’r chwaraewyr drwy gydol y twrnament, yn ôl Jonny Clayton, sy’n dweud ei fod e’n “joio’r fformat newydd”.
“Roedd e’n newydd i ni gyd ac roedd e’n wahaniaeth,” meddai.
“Fi’n credu, ta beth wyt ti’n gwneud, mae rhywbeth gwahaniaeth, fi’n meddwl bod e’n beth da achos ti’n meddwl yn wahaniaeth ac mae’r gêm i bawb yn wahaniaeth. Fi’n credu bod e’n syniad da.
“Ti’n chwarae am £10,000 bob nos Iau ac ry’n ni i gyd yn mofyn hwnna, so mae e’n rywbeth ecstra i chwarae amdano.
“Mae arian ar y diwedd ar sail y safle ti’n bennu yn y league, a wedyn ti’n chwarae am £10,000 bob nos Iau – peth newydd a peth da.”
Pencampwriaeth y Chwaraewyr
Er mai’r Uwch Gynghrair yw’r gystadleuaeth fawr i’r gwylwyr – yn y gwahanol leoliadau ac ar y teledu – mae’r chwaraewyr yn dal i chwarae eu rhestr gemau arferol, gyda Phencampwriaeth y Chwaraewyr yn cael ei chynnal bob penwythnos.
Roedd Jonny Clayton yn Barnsley dros y penwythnos, gan golli yn rownd yr wyth olaf yn erbyn Peter Wright ym Mhencampwriaeth y Chwaraewyr 1, ond mae’n dweud na fydd yr holl deithio’n cael effaith ar ei berfformiadau yn yr Uwch Gynghrair.
“Tro diwetha’ o’n ni i gyd tu ôl drysau wedi cau, ond ni’n trafaelu bob wythnos fel arfer i’r cystadlaethau llawr, so y’n ni gyd yn gyfarwydd â hwnna,” meddai.
“Mae lot o drafaelu ond dyna beth y’n ni wedi sign-io ymlaen i wneud. Dyna beth yw’n jobyn ni.”