“Doedd hi ddim am fod” i Jonny Clayton, meddai’r Cymro Cymraeg o Bontyberem ar ôl noson agoriadol Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Chwefror 3).

Collodd e’r rownd derfynol o 6-1 yn erbyn yr Albanwr Peter Wright o flaen torf gartref yn Arena Motorpoint Caerdydd, wrth i’r gystadleuaeth ddechrau ar ei newydd wedd, gyda Wright yn ceisio ennill yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf erioed.

Yn hytrach na’r hen gynghrair lle byddai pawb yn chwarae yn erbyn ei gilydd, bydd y gynghrair yn cael ei chynnal dros 16 noson, gyda rownd wyth olaf, rownd gyn-derfynol a rownd derfynol bob nos Iau, a phwyntiau ar gael am ennill, dod yn ail neu am golli yn y rownd gyn-derfynol.

Ar ei ffordd i’r fuddugoliaeth ar y noson gyntaf, fe wnaeth Peter Wright, 51, guro Michael Smith a Gary Anderson cyn herio Clayton i gipio’r wobr o £10,000.

Roedd e ar dân yn y rownd derfynol, wrth sicrhau blaenoriaeth o 4-0 i sicrhau bod cefn Clayton at y wal, ac fe gipiodd e’r fuddugoliaeth gyda thafliad o 124 gyda’i dri dart olaf.

Fe wnaeth y Cymro guro’r Saeson Joe Cullen a James Wade ar ei ffordd i’r rownd derfynol, ond doedd e ddim wedi gallu codi ei safon yn ddigonol i ymateb i gyfartaledd tri dart Wright o 113.

Mae Wright yn mynd i Lerpwl yr wythnos nesaf gyda phum pwynt a lle ar frig y tabl.

Peter Wright
Peter Wright yn y Senedd

Y pedwar chwaraewr ar frig y tabl ar ddiwedd y gystadleuaeth fydd yn chwarae yn y rowndiau terfynol i fynd am deitl Pencampwr Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC 2022.

“Roedd hi’n braf cael bod yn ôl yng Nghaerdydd gyda chefnogaeth gartref,” meddai Jonny Clayton.

“Chwarae teg i Peter yn y ffeinal.

“Fe wna i drio eto yr wythnos nesaf yn Lerpwl.

“Diolch am yr holl gefnogaeth.”

Gerwyn Price

Noson ddigon siomedig gafodd Gerwyn Price o Markham yn sir Caerffili o flaen y dorf Gymreig.

Doedd y Cymro, sydd ar frig rhestr ddetholion y byd ar ôl blwyddyn anhygoel, ddim ar ei orau wrth iddo fe golli o 6-3 yn rownd yr wyth olaf yn erbyn James Wade.

Gallai’r dorf fod wedi mwynhau gêm rhwng y ddau Gymro yn y rownd gyn-derfynol ond doedd hi ddim am fod i Price chwaith.

Canlyniadau

  • Rownd yr wyth olaf:

Jonny Clayton 6-2 Joe Cullen

Gerwyn Price 3-6 James Wade

Peter Wright 6-3 Michael Smith

Michael van Gerwen 4-6 Gary Anderson

  • Y rownd gyn-derfynol:

Jonny Clayton 6-4 James Wade

Peter Wright 6-5 Gary Anderson

  • Y rownd derfynol:

Jonny Clayton 1-6 Peter Wright

Uwch Gynghrair Dartiau'r PDC

Uwch Gynghrair Dartiau’r PDC yn dod i Gaerdydd

Jonny Clayton yn dechrau amddiffyn ei deitl a Gerwyn Price, prif ddetholyn y byd, ymhlith wyth fydd yn chwarae yn y twrnament