Mae Louis Rees-Zammit yn credu ei fod yn gyflymach nag yr oedd y llynedd, ac mae’n llawn hyder cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Bydd Cymru yn herio Iwerddon yn Nulyn yn y gêm gyntaf ddydd Sadwrn (Chwefror 5).
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y penwythnos hwn, gobeithio y cawn ni ddigon o gefnogwyr o Gymru yn dod gyda ni hefyd,” meddai’r asgellwr.
Er ei fod eisoes yn adnabyddus am ei gyflymder, mae’r gŵr 21 oed yn dweud ei fod wedi llwyddo i ddod yn gyflymach fyth.
“Mae gennym ddyfais GPS ar gefn ein crysau ac mae hynny’n mesur popeth o ran cyflymder,” meddai wedyn.
“Un diwrnod, byddaf yn gyflymach na’r diwrnod cynt, felly rwy’n gwybod fy mod yn mynd yn gyflymach.
“Mae gen i hyfforddwr perfformiad cyflymder yng Nghaerloyw (Daniel Tobin) ac rydyn ni’n gweithio arno bob dydd.
“Mae’n berson gwych i’w gael ac mae’n fentor da hefyd.
“Rydym wedi bod yn gwneud llwythi o ddriliau a fydd yn fy helpu ac mae wedi bod yn dangos fy mod wedi bod yn mynd yn gyflymach, sydd bob amser yn dda.”
Christ Tshiunza allan o’r Bencampwriaeth
Y newyddion drwg i Gymru yw fod y blaenwr Christ Tshiunza allan o’r Bencampwriaeth ar ôl anafu llinyn y gâr.
Daw hyn ar ben rhestr hir o absenoldebau – gyda’r capten Alun Wyn Jones allan am ran helaeth o’r gystadleuaeth os nad y gystadleuaeth i gyd, tra bod Leigh Halfpenny, Ken Owens, Josh Navidi a Justin Tipuric i gyd allan.
Ychydig o obaith sydd gan George North, Dan Lydiate a Taulupe Faletau o chwarae eu rhan yn y twrnament hefyd, a dim ond yn y gemau olaf fyddan nhw’n chwarae os ydyn nhw’n llwyddo i fod yn holliach.
Mae’r holl anafiadau yn golygu bod Cymru ryw 700 o gapiau’n brin o’r garfan fwyaf profiadol.