Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr tîm rygbi dynion Cymru, wedi cyhoeddi ei dîm ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd Cymru’n herio Iwerddon mewn gêm anodd yn Nulyn ddydd Sadwrn (Chwefror 5, 2.15yp).

Daw Will Rowlands i mewn i safle’r ail reng gydag Adam Beard yn absenoldeb y capten arferol Alun Wyn Jones, gyda Ryan Elias yng nghanol y rheng flaen yn safle’r bachwr yn absenoldeb Ken Owens, gyda Wyn Jones a Tomas Francis naill ochr iddo yn y sgrym.

Bydd Taine Basham yn dechrau gêm yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf ymhlith y rheng ôl, gan ymuno ag Ellis Jenkins ac Aaron Wainwright.

Bydd Josh Adams yn dechrau yn y canol am y tro cyntaf, gan gadw cwmni i Nick Tompkins, tra bydd Tomos Williams yn safle’r mewnwr yn bartner i’r capten a’r maswr Dan Biggar yn safle’r haneri.

Louis Rees-Zammit a Johny McNicholl fydd ar yr esgyll, gyda Liam Williams yn gefnwr.

Gallai Dewi Lake a Gareth Thomas ennill eu cap cyntaf oddi ar y fainc, tra gallai Ross Moriarty ennill ei hanner canfed cap dros ei wlad pe bai’n dod i’r cae.

Mae Dillon Lewis a Seb Davies hefyd wedi’u cynnwys ymhlith y blaenwyr sydd ar y fainc, gyda Gareth Davies, Callum Sheedy ac Owen Watkins o blith yr olwyr hefyd yn cymryd eu llefydd ar y fainc.

Eglurhad Wayne Pivac

“Rydyn ni wedi dewis Josh Adams yn rhif 13,” meddai Wayne Pivac.

“Mae’n rywbeth rydyn ni wedi bod yn meddwl amdano ers tro.

“Mae e wedi’i wneud e wrth ymarfer ac am gyfnodau byr ar ddiwedd gêm.

“Rydyn ni’n meddwl bod hwn yn gyfle euraid iddo fe ateb y cwestiwn hwnnw.”

Dywed Pivac ei fod e’n “falch iawn” dros Ross Moriarty wrth iddo ddychwelyd i’r fainc ar ôl gwella o anaf, ac yn “hapus iawn” dros Dewi Lake ar drothwy ei gap cyntaf.

“Mae e wrth ei fodd o gael bod yn ôl yn y 23, a dw i’n credu mai mater o gael amser mewn gêm yw hi ar hyn o bryd,” meddai.

“Rydyn ni’n meddwl y gwnaiff e argraff wrth ddod oddi ar y fainc, felly dyna pam ein bod ni wedi dilyn y trywydd hwnnw.

Wrth drafod Dewi Lake, dywed Pivac ei fod e’n “ddyn mawr, ac yn chwaraewr rygbi da iawn”.

“Mae e’n gryf dros y bêl ac yn rhoi rhywbeth i ni’n amddiffynnol yn ogystal â’i nerth wrth ymosod.”

‘Lle anodd i fynd’

“O ran hanes yn Nulyn, mae’n lle anodd i fynd,” meddai Wayne Pivac wedyn.

“Fe fu gemau gwych yno dros y blynyddoedd diwethaf yn erbyn Iwerddon.

“Maen nhw’n dîm anodd a chorfforol dros ben, felly rydyn ni’n gwybod y bydd yn rhaid i ni gamu i fyny o ran yr ochr yna o’r gêm a sicrhau ein bod ni’n gwneud hynny am 80 munud.

“Rhaid i ni fod yn ddisgybledig iawn ac o ganlyniad, bod yno’n brwydro am y canlyniad cywir.”

Tîm Iwerddon: H Keenan, A Conway, G Ringrose, B Aki, M Hansen, J Sexton (capten), J Gibson-Park, A Porter, R Kelleher, T Furlong, T Beirne, J Ryan, C Doris, J Van Der Flier, J Conan.

Eilyddion: D Sheehan, C Healy, F Bealham, R Baird, P O’Mahony, C Murray, J Carbery, J Hume.

Tîm Cymru: L Williams; J McNicholl, J Adams, N Tompkins, L Rees-Zammit; D Biggar (capten), T Williams; W Jones, R Elias, T Francis, W Rowlands, A Beard, E Jenkins, T Basham, A Wainwright.

Eilyddion: H Lake, G Thomas, D Lewis, S Davies, R Moriarty, G Davies, C Sheedy, O Watkin.

“Dim lle anoddach i fynd” na Dulyn

Alun Rhys Chivers

“Mae’r Gwyddelod newydd guro Seland Newydd yn yr hydref [29-20 yn Nulyn], wrth gwrs, ac mae eu taleithiau nhw’n hedfan yn uchel yn Ewrop…”